Yn 1577 hwyliodd Drake i dde'r Iwerydd a rowndthrwy [[yrCulfor HornMagellan|Gulfor Magellan]]. Fforiodd ar hyd arfordir [[Califfornia]], gan hawlio'r tir i Loegr, a cheisiodd hwilio am [[Tramwyfa'r Gogledd Orllewin|Dramwyfa'r Gogledd Orllewin]]. Teithiodd i'r gorllewin, ar draws [[y Cefnfor Tawel]], trwy [[India'r Dwyrain]] ac ar draws [[Cefnfor India]], o amgylch [[Penrhyn Gobaith Da]] ac yn ôl i Loegr. Drake oedd y Sais cyntaf, a'r ail forlywydd o unrhyw wlad, i hwylio o amgylch y byd, a phan dychwelodd i Loegr cafodd ei urddo'n farchog gan [[Elisabeth I, brenhines Lloegr|y Frenhies Elisabeth]] ar fwrdd ei long, y ''Golden Hind''.