Cwmpawd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 14:
O gymryd y dwyrain yn hytrach na’r gogledd fel man cychwyn mae gogLEDD, sydd gytras á ''kleiz'' (chwith) y Llydaweg, [''a tuath'' yn y Gaeleg] yn dangos bod patrwm cyson yn cysylltu’r Aeleg, y Lydaweg a’r Gymraeg o leiaf.
 
:Yn achos yr Aeleg mae gair yr iaith honno am 'de' hefyd yn golygu 'cywir' ac mae'r rheswm yn mynd â ni yn ôl i'n cyndeidiau haul-addolgar, fel mae Ruairidh MacIlleathain yn esbonio:
 
:Y gair Gaeleg am granc meudwyol yw ''partan tuathal'', yn llythrennol y 'cranc chwithig' (neu trwsgwl). Cysylltir ''tuathal'' â chwith (aswy) a gogledd, yn ogystal a bod yn gysylltiedigysylltiedig â 'chwithdod' neu 'anghywirdeb'. Benthycwyd 'partan' o'r iaith Sgotaidd ac fe'i defnyddir o hyd am 'cranc' yn nhafodiaith Sgotaidd y gogledd- ddwyrain. Fe'm hatgoffir brif gyfeiriadau'r cwmpawd o'r arferiad hynafol o wynebu'r haul dyrchafol yn y dwyrain, gyda'r deheulaw, neu'r deheubarth, ar y llaw dde! Dwyrain yw ''an ear'' a olygai yn wreiddiol 'o flaen', a gorllewin yw ''an iar'', a olygai tu ôl. Fe geir y ddau derm mewn enwau lleoedd - er enghraifft, y gair Gaeleg am Ynysoedd Heledd gorllewin yr Alban yw ''Na h-Eileanan an Iar''.</br>
 
:Y term am 'de' yw ''deas'', sydd hefyd yn golygu 'cywir'. Fe berthyn y gair o bell i'r Lladin ''dexter'' ac felly i'r Saesneg ''dextrous'', gydag atgofion eto o 'gywirdeb'.</br>