Cwmpawd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 16:
Yn achos yr Aeleg mae gair yr iaith honno am 'de' hefyd yn golygu 'cywir' ac mae'r rheswm yn mynd â ni yn ôl i'n cyndeidiau heul-addolgar, fel mae Ruairidh MacIlleathain yn esbonio:
 
:Y gair Gaeleg am granc meudwyol yw ''partan tuathal'', yn llythrennol y 'cranc chwithig' (neu trwsgwl). Cysylltir ''tuathal'' â chwith (aswy) a gogledd, yn ogystal a bod yn gysylltiedig â 'chwithdod' neu 'anghywirdeb'. Benthycwyd 'partan' o'r iaith Sgotaidd ac fe'i defnyddir o hyd am 'cranc' yn nhafodiaith Sgotaidd y gogledd- ddwyrain. Fe'm hatgoffir gan brif gyfeiriadau'r cwmpawd o'r arferiad hynafol o wynebu'r haul dyrchafol yn y dwyrain, gyda'r deheulaw, neu'r deheubarth, ar y llaw dde! Dwyrain yw ''an ear'' a olygai yn wreiddiol 'o flaen', a gorllewin yw ''an iar'', a olygai tu ôl. Fe geir y ddau derm mewn enwau lleoedd - er enghraifft, y gair Gaeleg am Ynysoedd Heledd gorllewin yr Alban yw ''Na h-Eileanan an Iar''.</br>
</br>
:Y term am 'de' yw ''deas'', sydd hefyd yn golygu 'cywir'. Fe berthyn y gair o bell i'r Lladin ''dexter'' ac felly i'r Saesneg ''dextrous'', gydag atgofion eto o 'gywirdeb'.</br>
</br>
:Cyfyd hyn o naturioldeb symudiad yr haul o'r dwyrain i'r gorllewin trwy ddeheuon y wybren yn hemisffer y gogledd. Gwelir symudiad 'heulwedd' neu glocwedd (a elwir ''deiseil'' yn yr Aeleg) hyd heddiw yn niwylliant y Gael fel rhywbeth mwy dymunol na'r gwrthwyneb, sef ''tuathal''. Daw hwn o 'tuath', y gair Gaeleg am gogledd a olygai yn wreiddiol yn 'chwith'.</br>
</br>
:Awgryma'r gair ''tuathal'' wedd ar annaturioldeb neu chwithdod. Mae ''deas'' a ''tuath'' yn gymharol gyffredin yn y dirwedd - er enghraifft ''Uibhist a Tuath'' (''North Uist'') a ''Uibhist a Deas'' (''South Uist''). Ond mewn llawer o ardaloedd Gaeleg eu hiaith mae dyn yn teithio ''suas gu deas'' (‘i fyny i'r de’) a ''sìos gu tuath'' (‘i lawr i'r gogledd’), sef yn groes i'r hyn a arferid yn y Gymraeg neu'r Saesneg fodern.<ref>Cyfieithwyd i'r Gymraeg o gylchgrawn Scottish Natural Heritage Haf 2011</ref>