Afon Dwyryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 11:
 
==Hanes==
 
*Newid cwrs 1816
Er fod yr afon Ddwyryd a’r rhydau yn symyd yn ôl a blaen ar dywod y Traeth Bach, Harlech nid oedd yn mynd ond rhyw ychydig yma ac acw. Ond ar noswyl Nadolig 1816 (dyma’r “Flwyddyn heb Haf” gyda llaw, a anfarwolwyd gan [[Gwallter Mechain]], a ddilynodd ffrwydriad enwog llosgfynydd Tambora yn Ebrill 1815 ac a barodd i’r tywydd fod yn ansefydlog am beth amser wedyn) fe fu symudiad mawr anesboniadwy yng nghwrs yr afon ar y Traeth Bach. Mae ynys fechan gron ar ganol y traeth a thŷ annedd arni o’r enw “Ynys Gifftan”. Cyn 1816 yr oedd yr afon yn rhedeg i’r môr yr ochr agosaf i Dalsarnau i’r ynys ond un noswaith (yn ôl cofnod manwl mewn hen Feibl teuluaidd ym meddiant teulu lleol) bu llif mawr, ac yn ddirybudd, fe drodd yr afon i ochr Minffordd i’r ynys gan ei ynysu o ochr cartref y perchennog. Ar yr ochr yma yn ôl ob golwg y mae wedi llifo am dros ganrif a hanner heb argoel ei bod am droi yn ôl i’r hen wely.