Afon Dwyryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 13:
 
*Newid cwrs 1816
Er fod yr afon Ddwyryd a’i rhydaullednentydd yn symyd yn ôl a blaen ar dywod y Traeth Bach, Harlech nid oedd yn mynd ond rhyw ychydig yma ac acw. Ond ar noswyl Nadolig 1816 (dyma’r “Flwyddyn heb Haf” gyda llaw, a anfarwolwyd gan [[Gwallter Mechain]], a ddilynodd ffrwydriad enwog llosgfynydd Tambora yn Ebrill 1815 ac a barodd i’r tywydd fod yn ansefydlog am beth amser wedyn) fe fu symudiad mawr anesboniadwy yng nghwrs yr afon ar y Traeth Bach. Mae ynys fechan gron ar ganol y traeth a thŷ annedd arni o’r enw “Ynys Gifftan”. Cyn 1816 yr oedd yr afon yn rhedeg i’r môr yr ochr agosaf i Dalsarnau i’r ynys ond un noswaith (yn ôl cofnod manwl mewn hen Feibl teuluaidd ym meddiant teulu lleol) bu llif mawr, ac yn ddirybudd, fe drodd yr afon i ochr Minffordd i’r ynys gan ei ynysu o ochr cartref y perchennog. Ar yr ochr yma yn ôl ob golwg y mae wedi llifo am dros ganrif a hanner heb argoel ei bod am droi yn ôl i’r hen wely.
 
Yr oedd hen forwr duwiol o’r enw Capten John Roberts wedi adeiladu tŷ ar y graig ar fin y morfa, i’r ochr hon o’r afon yn agos i Aber-ia. Enw’r tŷ oedd “Sandy Mount”. Mae hyd yn oed ei adfeilion wedi mynd erbyn heddiw, y cerrig, mae’n debyg wedi mynd i adeiladu rhannau o Borthmeirion. Ar y noson ganwyd ei ferch y cymerodd yr afon y llam dieithr yma. Dyma sut y cofnodwyd yr achlysur ar dudalen yr hen Feibl: ''Jane , the daughter of John Roberts of Sandy Mount born December 24 1816, Saturday. The same night the channel came to the Northward Ynys Gifftan to our sorrow''<ref>Y diweddar Trefor Davies trwy law Aled Elis (Penrhyndeudraeth) ym Mwletin rhifyn 45/46 tudalen 3[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn4546.pdf]</ref>