Trowynt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{link FA|af}} (4) using AWB
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 2:
[[Delwedd:Dszpics1.jpg|bawd|300px|Trowynt ger [[Anadarko, Oklahoma]].]]
Colofn gylchdroadol o [[aer]] yw '''trowynt''' neu '''tornado''' (lluosog: tornados) sy'n estyn o arwyneb y ddaear i [[cwmwl cwmwlonimbws|gwmwl cwmwlonimbws]] neu, mewn achosion eithriadol, [[cwmwl cwmwlws]].
 
==Enghreifftiau penodol==
*Meddai Celt Roberts: ''Dydd Mercher 7fed Rhagfyr 2011: Roedd hi’n fore braf a heulog ac wrth deithio roedd hi’n hawdd gweld pob hafn a chraig ar lethrau’r mynyddoedd. Roedd hi’n fore hynod o glir. Roedd yr hin yn fain ac roedd y gwynt yn chwythu’n gryf mewn mannau agored. Roedd hi ychydig wedi hanner dydd erbyn hyn. Roedd Meira, fy ngwraig a minnau yn teithio yn y car rhwng Beddgelert a Chaernarfon ar ffordd yr A4085. Mae’r ffordd yn dringo o Feddgelert hyd at ble dowch i olwg Llyn y Gadair, sydd ar ochr chwith y ffordd. Wedi cyrraedd at y man hwn, cefais gip ar rywbeth y gwyddwn ar unwaith ei fod yn rhywbeth allan o’r cyffredin. Amneidiais ar Meira i edrych i gyfeiriad y llyn. Roedd yr hyn a welsom yn rhyfeddol. Yr hyn dynodd fy llygad gyntaf oedd swm enfawr o ddŵr yn codi o’r llyn. Codai’r dŵr gan ddisgyn a tharo yn erbyn y lan fel anferth o don. Disgynnodd llawer o’r dŵr yn ôl i’r llyn ac ar hyd y lan agosaf at y ffordd. Chwyrliodd y gweddill fel cawod fawr o law, i ffwrdd o’r llyn gan droelli draw tuag at y ffordd. Yno chwipiwyd ychwaneg o ddŵr i’r awyr. (O weld wedyn roedd ffrwd fechan yn rhedeg o dan y ffordd i gyfeiriad y llyn.) Roedd y pellter rhyngom ag ef bellach yn llai na chanllath. Gallem weld yn glir weiriach, dail a phob math o dyfiant yn chwyrlio’n uchel a bellach wedi croesi’r ffordd. Yno yn y cae, roedd nifer helaeth o ddefaid, ac mewn amrantiad roeddynt yn chwalu i bob cyfeiriad. Yn amlwg yn dianc am eu heinioes, yn sicr wedi eu dychryn yn arw. Digwyddodd y cyfan mewn ychydig eiliadau. Roeddem yn sylweddoli ein bod wedi bod yn dyst i drowynt nerthol. Diflanodd dros erchwyn bryn tu draw i’r defaid a phopeth fel cynt, fel pe nai bai dim wedi digwydd. O gofio lle roedden ni, allwn i ddim llai na meddwl fod cyswllt â’r llwynog hwnnw yn y soned ac mae’r geiriau “syfrdan y safodd yntau” a “digwyddodd, darfu megis seren wib” yn dod i’r cof. A rhag i rywun ofyn, oedd, roedd gen i ffôn allai fod wedi cadw’r cyfan ar gof a chadw, ond mi ddigwyddodd mor ddisymwth fel na chefais amser hyd oed i feddwl am gamera heb sôn am feddwl ei weithio. Er i mi stopio’r car i weld yr olygfa ryfeddol hon doeddwn i ddim digon effro i agor ffenestr y car i wrando chwaith. Ond mae’r llun yn dal gennym ni ein dau a fyddwn ni ddim yn anghofio am drowynt Llyn y Gadair yn fuan iawn . . . . . . ."<ref>Celt Roberts, Talsarnau, Bwletin Llên Natur rhifyn 47<ref/>
 
* Meddai Aelwyn Gomer Roberts; “pan yn fachgen ar fferm fynyddig yn Abergeirw, Meirionnydd ym mhedwar degau’r ganrif ddiwethaf byddem yn lladd a hel gwair yn ystod dyddiau’r haf yn y dull traddodiadol. Byddai fy nhad yn torri cae o wair, neu ffosiad o’r weirglodd â’r peiriant bach un ceffyl ac yn tacluso o gwmpas y cloddiau a’r mannau anhwylus hefo’i bladur. Yna byddai gweddill y teulu yn ei gynorthwyo i drin y gwair er mwyn ei gael yn ddigon sych i’w gludo i’r tŷ gwair yn y car llusg. Defnyddiem gribin fach i daenu ystodiau, troi a chwalu’r gwair nes ei fod yn berffaith sych ac yn ysgafn, a chael llawer o help gwerthfawr gan yr haul wrth gwrs ac weithiau gan awel o wynt hefyd. Ond ‘doedd y gwynt ddim yn garedig iawn bob amser, yn enwedig pan fyddai’r gwair wedi’i hel at ei gilydd yn rhenciau taclus ac yn barod i ni ei dyrru cyn ei lwytho ar y car llusg. Os codai pwff mwy na’r cyffredin o wynt yr adeg hon gallai ddad-wneud llawer o’r gwaith caled a fu’n achos cryn chwys i’r criw a fu wrthi mor ddyfal. Ond ambell dro hefyd fe gaem fod ychydig o lanast wedi digwydd mewn un man ar y rhenc a byddai hyn yn gallu peri syndod i ni’r plant nes i ni weld y peth yn digwydd. A dyna oedd, sef trowynt bach iawn yn taro man arbennig nes codi a chwyrlïo peth o’r gwair nes bod hwnnw’n esgyn fel rhyw dwmffat bler cyn disgyn yn ôl i’r ddaear, gan adael blewiach o wair yn dal i hedfan uwchben. Digwyddai hyn weithiau pan fyddai storm yn bygwth. Gwelais hefyd drowynt fel hyn yn symud ar hyd rhan o’r rhenc nes gadael ei ôl am lathenni, er gwaethaf ein gwaeddiadau am iddo beidio!”
 
*Mae Tom Jones yn cofio’r union beth. Meddai Tom “Rwyf yn cofio un rhaf unai 1970 neu 71 pan yn gweini yn Penystumllyn Criccieth weld rhywbeth na welais erioed o'r blaen. Roeddwn newydd hel gwair mewn cae bychan wrth yr iard yn barod i'w felio diwedd pnawn wedi iddo gael ychydig o haul. Ond pan yn edrych arno ychydig ar ol cinio dyma welais, sef y gwair mewn un rhan fach iawn yn codi i'r awyr. Troellai am beth amser yna disgyn yn ôl drachefn i'w renc. Digwyddodd hyn 3 gwaith bron iawn yn yr un lle. Rhyw droedfedd ar draws ei dop, yn mynd lawr i ddim ar y ddaear, ac yn codi dim mwy na rhyw bump i chwech troedfedd oddi ar y ddaear. Dywedodd y bailiff ei fod yn mynd i felio yn syth gan fod y tywydd yn newid. Cael a chael oedd hi i gael y gwair o dan dô y diwrnod hwnnw gan iddi ddod yn law trwm. Roeddwn innau yn ei ddilyn gyda trelar yn cario gan nad oedd yno lawer o wair gan i'r cae gael ei bori i fyny i rhyw fis cynt.”
[Gweler hanes trowynt Llyn y Gadair gan Celt Roberts ym Mwletin 47]
 
*Bu cryn son ym Mwletin 47 a 48 am drowyntoedd. Yn yr ail o rhain bu son am ffenomenon rhyfeddol o drowyntoedd “bychain” mewn caeau gwair. Diolch i graffter Tom Jones dyma ddod o hyd i un arall o Fôn ym mis Gorffennaf 2006. Dyma’r cofnod:
13 Gorffennaf 2006 Llanddeusant, Môn
Diwrnod braf iawn trwy'r dydd a sychu'n dda. Poeth hefyd. Corwynt mawr yn mynd a llawer o'r gwair i ffwrdd i bob man welais i mo hono ond roedd
ei ôl yn bob man ar y gwrychoedd ar coed.
Dyddiadur Elinor Jones, Llanddeusant, Ynys Môn. (diolch i Mrs Jones a’i hwyres Sara)
 
{{eginyn tywydd}}