Cwmni Recordiau Sain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Lleihawyd o 379 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 13:
 
Cwmni recordio a sefydlwyd yn [[1969]] gan [[Dafydd Iwan]], [[Huw Jones]], a [[Brian Morgan Edwards]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yw '''Cwmni Recordiau Sain'''.
 
Ceir sawl is-gwmni neu label gan gynnwys Crai, a sefydlwyd yn 1988 ac a gyhoeddodd gerddoriaeth [[Yr Anhrefn]], [[Mike Peters (musician)|Mike Peters]] a [[Big Leaves]], yn ogystal â chyfres ''Crai Tecno'' gan artistiaid cerddoriaeth ddawns.<ref name="Parker">Parker, Mike & Whitfield, Paul (2003) ''The Rough Guide to Wales'', Rough Guides, ISBN 978-1-84353-120-3, p. 584</ref><ref name="Hill">Hill, Sarah (2007) ''`Blerwytirhwng?` the ''
Place of Welsh Pop Music'', Ashgate, ISBN 978-0-7546-5898-6, p. 63, 87, 134''</ref>
 
Rasal Cyf. ydy'r label ddiweddaraf, sy'n arwyddo ac yn hybu bandiau ifanc.
 
Prif Weithredwr Sain ydy [[Dafydd Roberts]] a fu'n aelod blaenllaw o [[Ar Log]] ers 1976 a [[Brân (grŵp)|Brân]] cyn hynny.<ref name="BBC">"[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/north_west/4850254.stm Nashville star records Welsh hymn]", [[BBC]], 27 March 2006, retrieved 2011-01-22</ref>
 
==Labeli'r cwmni==
Llinell 35 ⟶ 28:
 
Symudwyd swyddfa'r cwmni o 62 Heol Ninian, Parc y Rhath, Caerdydd i [[Llandwrog|Landwrog]], ger [[Caernarfon]], yn [[1970]] er mwyn i'r cwmni fod yn nes i'r gynulleidfa [[Gymraeg]] ac fel rhan o'r mudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewn [[Y Fro Gymraeg|ardal Gymraeg]], a sefydlodd y naill yn Llandwrog a'r llall yn y [[Waunfawr]].
Yn [[1973]] symudodd y cwmni i Stad Ddiwydiannol [[Pen-y-groes]], a dechrau cyflogi staff ychwanegol. [[Record]]iau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch hyd yn hyn, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir. O ran y deunydd, roedd y pwyslais o hyd ar ganu'r ifanc, [[canu pop]], [[canu gwerin]] a phrotest. Yn [[1975]] agorwyd stiwdio gyntaf SAIN ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â'r staff fel cynhyrchydd.
 
Erbyn heddiw Sain yw cynhyrchydd recordiau mwyaf Cymru gyda cherddoriaeth werin, roc, pop, hip hop, rap, canu gwlad a chlasurol yn rhan o’r ddarpariaeth ganddynt. Ystyrir mai Sain yw y cwmni recordio gyntaf Cymraeg i fod yn hunangynhaliol. Rhyddhawyd sengl gyntaf Sain yn Hydref 1969 o dan yr enw Dwr gan Huw Jones. Roedd yn gan am foddi [[cwm Tryweryn]]. Recordiwyd nifer o ganeuon cynnar y cwmni yn stiwdio Rockfield yn [[Sir Fynwy]]. Yn 2017 rhyddhaodd Sain dros 7,000 o glipiau sain a 498 clawr albwm. [
Yn [[1973]] symudodd y cwmni i Stad Ddiwydiannol [[Pen-y-groes]], a dechrau cyflogi staff ychwanegol. [[Record]]iau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch hyd yn hyn, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir. O ran y deunydd, roedd y pwyslais o hyd ar ganu'r ifanc, [[canu pop]], [[canu gwerin]] a phrotest.
 
Yn [[1975]] agorwyd stiwdio gyntaf SAIN ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â'r staff fel cynhyrchydd.
 
1975 - [[1979]] oedd "cyfnod aur" Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o'r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, yr oedd nifer o grwpiau [[roc]] a gwerin wedi dechrau yng Nghymru, a bandiau fel [[Edward H. Dafis]] wedi rhoi i ieuenctid Cymru eu "diwylliant roc" eu hunain. Artistiaid amlwg y cyfnod hwn ar label SAIN oedd [[Hergest]] a [[Delwyn Siôn]], [[Geraint Jarman]], [[Heather Jones]], [[Meic Stevens]], [[Tecwyn Ifan]], [[Mynediad am Ddim]] ac [[Emyr Huws Jones]], [[Endaf Emlyn]], [[Injaroc]], [[Brân (band)|Brân]], [[Shwn]], [[Eliffant (band)|Eliffant]], [[Ac Eraill]] a [[Sidan (band)|Sidan]].
Defnyddiwr dienw