Urien Rheged: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
arwr
delwedd tarian
Llinell 1:
[[Delwedd:COA Urien Glodrydd.svg|bawd|Arfau Urien, gyda [[cigfran|chigfran]]]]
Brenin [[Rheged]], un o deyrnasoedd [[Brythoniaid]] yr [[Hen Ogledd]] oedd '''Urien Rheged''' (c.[[550]]-[[590]]). Fe'i cofir yn y [[traddodiad barddol]] [[Cymraeg]] fel un o brif noddwyr y [[Taliesin]] hanesyddol. Cedwir wyth gerdd i Urien gan Daliesin yn ''[[Llyfr Taliesin]]''. Canodd Taliesin i [[Owain ab Urien|Owain]], fab Urien, yn ogystal. Roedd ganddo dri fab arall, [[Rhiwallon fab Urien]], [[Rhun ab Urien|Rhun]] a [[Pasgen]], ond Owain a'i olynodd. Ceir cyfeiriadau at ferch o'r enw [[Morfudd ferch Urien|Morfudd]] hefyd, a ddaeth yn gymeriad chwedlonol. Cyfeirir at Urien yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]] fel 'arweinydd cad Prydain.' Yn ôl [[Nennius]] yn yr ''[[Historia Brittonum]]'', cafodd ei lofruddio ar orchymyn ei gynghreiriad Morgant Bwlch, oedd yn genfigennus o'i lwyddiant, ond nid oes cyfeiriad arall at hynny.