Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Afon Rheidol"

Ychwanegwyd 1 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
[[Afon]] yng nghanolbarth [[Cymru]] yw '''Afon Rheidol''' sy'n llifo trwy [[Ceredigion|Geredigion]] o'i tharddle ar [[Pumlumon|Bumlumon]] hyd at ei haber yn [[Aberystwyth]].
 
Mae tarddleoedd Afon Rheidol i'w gael yn y nentydd sy'n llifo i mewn i gronfa ddŵr [[Nant-y-moch]] (ger safle [[brwydr Hyddgen]], [[1401]]) ar lethrau gorllewinol [[Pumlumon]]. Mae gwir darddle ddaearyddol yr afon yn anodd penderfynu. Yn draddodiadol, [[Llyn Llygad Rheidol]], mewn cwm uchel ger copa Pumlumon Fawr, yw tarddle Rheidol, fel y mae ei enw yn awgrymu; mae Nant y Llyn yn disgyn ohono i Nant-y-moch ond nid yw'n ffrwd sylweddol. Ond ceir sawl ffrwd arall o faint mwy sylweddol, megis afon Hengwm, sydd a'i tharddle i'r de o lyn [[Bugeilyn]] fymryn dros y ffin ym [[Powys|Mhowys]]. Mae afon Llechwedd-mawr yn tarddu yn [[Llyn Conach]] ac yn dynodi'r ffin rhwng CerdigionCeredigion a Phowys am ran helaeth ei chwrs. Ceir sawl ffrwd llai, yn cynnwys ffrwd Nant-y-moch yr enwir y gronfa dŵr ar ei hôl.
 
O Nant-y-moch mae'r afon yn llifo tua'r de i [[Cronfa Dinas|gronfa Dinas]] ac yno trwy bentref [[Ponterwyd]] a'i chymer ag [[Afon Mynach]] ymuno â hi. Yn fuan ar ôl cymer Afon Mynach, mae Rheidol yn disgyn dros raeadr wrth ymyl pentref [[Pontarfynach]]. Mae yn awr yn llifo tua'r gorllewin heibio i hen gloddfa blwm [[Cwm Rheidol]]. Er bod y gloddfa yma wedi cau, mae'n parhau i effeithio ar ddŵr Afon Rheidol. Mae'r afon yn awr yn parhau tua'r gorllewin ac yn cyrraedd y môr yn harbwr [[Aberystwyth]] lle mae'n llifo i [[Bae Ceredigion|Fae Ceredigion]].