Gjirokastra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 46 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q173690 (translate me)
Danielt998 (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu gwybodlen Wiciddata
 
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle}}
[[Delwedd:Gjirokastra.jpg|250px|bawd|Golygfa ar Gjirokastra o'r castell]]
Dinas hynafol yn ne [[Albania]] yw '''Gjirokastra''' neu '''Gjirokastër''' ([[Groeg]]: Αργυρόκαστρον, ''Argyrókastron''; [[Aromaneg]]: ''Ljurocastru'', [[Eidaleg]]: ''Argirocastro'', [[Twrceg]]: ''Ergiri''). Mae ganddi boblogaeth o tua 34,000. Mae'n ganolfan weinyddol Ardal Gjirokastër a Swydd Gjirokastër. Rhestrir ei hen ddinas yn [[Safle Treftadaeth y Byd]] gan [[UNESCO]] fel "enghraifft brin o dref [[Ymerodraeth yr Otomaniaid|Otomanaidd]] mewn cyflwr da, a godwyd gan ffermwyr cefnog". Wedi ei lleoli yn ne'r wlad, 300 medr uwch lefel y môr, gorwedd Gjirokastra mewn lleoliad hardd mewn dyffryn ffrwythlon rhwng mynyddoedd uchel y Gjerë ac [[afon Drin]] neu Drinos. Dominyddir y ddinas gan [[castell|gastell]] canoloesol mawr (''Kalaja e Gjirokastres'') gyda rhannau o'r muriau yn dyddio yn ôl i gyfnod y [[Rhufeiniaid]].