Walonia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
mae eisoes yn dweud hynny yn yr ail baragraff
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Rhan ddeheuol [[Gwlad Belg]] yw '''Walonia''' ([[Ffrangeg]]: ''Wallonie'', [[Iseldireg]]: '''Wallonië'''). Dyma'r rhan Ffrangeg ei iaith o Wlad Belg, er bod tua 70,000 o'r boblogaeth yn siarad [[Almaeneg]] fel mamiaith yn y dwyrain.
 
Y brifddinas yw [[Namur (dinas)|Namur]], er mai [[Charleroi]] yw'r ddinas fwyaf a [[Liège]] yr ardal ddinesig fwyaf. Gydag arwynebedd o 16.844 km² mae Walonia'n ffurfio 55% o Wlad Belg, ond yn cynnwys dim ond 33% o'r boblogaeth, 3,456,775 yn [[2008]]. Daw'r enw o'r un gwreiddyn Almaenaidd a ''Wales'' am Gymru, o ''*Weleas'', yn golygu tramorwyr Lladin ei hiaith neu Rufeiniedig.
 
Yn ystod y [[19eg ganrif]] a dechrau'r [[20fed ganrif]], roedd Walonia yn ardal ddiwydiannol bwysig, ac yn gyfothocach na [[Fflandrys]], y rhan [[Iseldireg]] ei iaith o Wlad Belg. Gyda dirywiad y diwydiannau trwm, mae yn awr yn llai cyfoethog na Fflandrys. Mae gan Walonia ei hanthem genedlaethol eu hun, ''Le Chant des Wallons''.