Brynaich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LaaknorBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: pl:Bernicja
bernech a ballu
Llinell 1:
Teyrnas [[Eingl-Sacsonaidd]] yn ne-ddwyrain [[yr Alban]] a gogledd-ddwyrain [[Lloegr]] oedd '''Brynaich''' neu '''Bryneich''' neu mewn Cymraeg Canol: '''Bernech''' <ref>[http://books.google.co.uk/books?id=f899xH_quaMC&pg=PA1198&lpg=PA1198&dq=Wallonie+celts&source=bl&ots=p_XDeizxXH&sig=hw547Ls1PINEyLfx9nd_fX7SzO8&hl=en&ei=F3asS7vfLpn00gTb57SMDg&sa=X&oi=book_result&ct=result&resnum=7&ved=0CBgQ6AEwBg#v=onepage&q=brynaich&f=false Llyfr Celtic culture: a historical encyclopedia, Volumes 1-5 By John T. Koch]</ref> ([[Saesneg]]: '''Bernicia'''). Sefydlwyd y deyrnas cyn dyfodiad goresgynwyr megis yr [[Eingl]] yn y [[6ed ganrif]], a tharddiad yr enw cynharaf ar yr ardal, sef '''Bernacci''', oedd 'y bwlch' a chredir i deyrnas Frythonig o'r enw yma fodoli yma am ganrifoedd.<ref>Jackson, LHEB tud 701-705</ref> Gwyddwn hyn gan y cofnodir yn 'Marwnad Cunedda' am fodolaeth y [[Cunedda|Brenin Cunedda]] ac am 'fyddin Gododdin a Brynaich', dau lwyth wedi'u huno i ymladd ym [[Brwydr Catraeth|Mrwydr Catraeth]]. Mae tarddiad enwau llefydd yr ardal hefyd yn profi i lwythi Celtaidd reoli'r ardal cyn y 6ed ganrif; enwau megis Yeavering, Dunbar, Doon Hill a Melrose. <ref>Alcock, Economy, Society and Warefare among Britons and Saxons; tud 221, 255-266; Hope-Taylor, Yeavering</ref>
Teyrnas [[Eingl-Sacsonaidd]] yn ne-ddwyrain [[yr Alban]] a gogledd-ddwyrain [[Lloegr]] oedd '''Brynaich''' neu '''Bryneich''' ([[Saesneg]]: '''Bernicia'''). Sefydlwyd y deyrnas gan yr [[Eingl]] yn y [[6ed ganrif]], ond efallai fod teyrnas Frythonig o'r enw Brynaich wedi bodoli yn flaenorol.
 
Roedd tiriogaeth Brynaich yn ymestyn o [[Afon Forth]] i [[Afon Tees]]; mewn termau modern roedd yn cyfateb i [[Northumberland]], [[Swydd Durham]], [[Swydd Berwick]] a [[Dwyrain Lothian]]. Cyn sefydlu'r deyrnas [[Eingl-Sacsoniaid|Eingl]], roedd y tiriogaethau hyn yn rhan ddeheuol teyrnas [[Gododdin (teyrnas)|Gododdin]]. Efallai mai ei phrifddinas oedd [[Bamburgh]], a elwid yn ''Din Guardi'' yn yr hen ffynonellau Cymreig. Gerllaw roedd Ynys Metcaut ([[Lindisfarne]]).
 
Y cyntaf o frenhinoedd Eingl Brynaich y mae cofnod amdano yw [[Ida, brenin Brynaich|Ida]], a ddaeth i'r orsedd tua [[547]]. Unodd ŵyr Ida, [[Æthelfrith o Northumbria|Æthelfrith]], deyrnas [[Deifr]] a'i deyrnas ei hun tua [[604]] i osod sylfeini teyrnas [[Northumbria]].
 
Bu [[Cadwallon]] yn frenin yma, oblegid ei berthynas i [[Cunedda]] tan iddo gael ei ladd gan [[Oswallt]].
 
Mae'r ardal yn bwysig am sawl rheswm, gan gynnwys [[Llyfr Lindisfarne]] a pherthynas [[Beda]] a'r ardal. Ymladdodd [[Urien Rheged]] yn erbyn [[Angle]]iaid yr ardal gan eu hymlid o'r tir mawr i Lindisfarne.<ref>Historia Brittonum 63</ref>
 
Ymhell ar ôl i'r deyrnas hon ddod i ben, parawyd i ddefnyddio'r gair Bryneich am y gelyn Saesnig e.e. yng ngwaith y [[Gogynfeirdd]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
 
{{Hen Ogledd}}