Caer y Twr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
adio gwybodlen lle o Wicidata
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
yyyyh!
Llinell 11:
 
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan [[Cadw]] a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN019.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o [[heneb]]ion, er bod [[archaeoleg]]wyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
[[Delwedd:Caerytwr.jpg|bawd|chwith|Rhan o waliau allanol carreg Caer y Tŵr]]
 
Mae'n dyddio i tua'r [[2g]] OC ac yn amgáu tua 6.87 [[hectar]] (17 erw) o dir. Garw ac anwastad yw'r tir oddi mewn a does dim olion o'r cytiau heddiw. Ceir [[cae]]au bychain ar ffurf terasau i'r gogledd-orllewin, tu allan i'r gaer. Mae'r mur amddiffynnol i'w gweld ar ei orau ar yr ochr ogleddol, gyda thrwch o 13 troedfedd a mur allanol sy'n cyrraedd 19 troedfedd o uchder gyda cherddedfa i'r amddiffynwyr tua llathen yn uwch na'r llawr mewnol.<ref>Katherine Watson, ''North Wales'' yn y gyfres 'Regional Archaeologies' (Cory, Adams & Mackay, 1965).</ref>