*[[Talaith Namur]], prifddinas [[Namur (dinas)|Namur]]
==Ardaloedd ieithyddol==
Sefydlwyd yr ardaloedd ieithyddol ([[Iseldireg]]: ''taalgebieden'', [[Ffrangeg]]: ''régions linguistiques'') yn [[1963]], a daethant yn rhan o'r Cyfansoddiad yn [[1970]]. Ceir pedair o'r rhain:
* ardal ieithyddol yr Iseldireg
* ardal ddwyieithog Prifddinas-Brwsel
* ardal ieithyddol Ffrangeg
* ardal ieithyddol Almaeneg
Dynodir hefyd dair cymuned o fewn Gwlad Belg; mae'r rhain yn cyfeirio at y bobl ac nid ydynt yn raniadau daearyddol:
* y Gymuned Fflemaidd (''Vlaamse Gemeenschap''), yn siarad Iseldireg
* y Gymuned Ffrengig ei hiaith (''Communauté Française'')
* y Gymuned Almaeneg ei hiaith (''Deutschsprachige Gemeinschaft'')