Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dolly Pentreath"

Lleihawyd o 17 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
dileu cyfeiriad amherthnasol (gw. Sgwrs); categori
(Dorothy Pentreath.jpg)
(dileu cyfeiriad amherthnasol (gw. Sgwrs); categori)
[[Cernyw]]es a ystyrir gan rai y siaradwr uniaith [[Gernyweg]] olaf oedd '''Dolly Pentreath''' (bu farw yn [[Rhagfyr]], [[1777]]). Sail y traddodiad mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath yw adroddiad [[Daines Barrington]] am gyfweliad gyda Dolly. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19eg ganrif, er bod ganddynt wybodaeth o [[Saesneg]] hefyd.
 
Er i Dolly ddweud, yn ôl y chwedl, "''My ny vydn kewsel Sawsnek''!" ("dwi ddim isio siarad Saesneg!"), roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd [[Chesten Marchant]], a fu farw ym [[1676]].
 
Roedd Pentreath yn byw ar hyd ei hoes ym mhlwyf Paul, ger [[Mousehole]], lle cafodd ei chladdu hefyd; codwyd cofeb iddi ym mur y llan yn 1860 gan [[Louis Lucien Bonaparte]], nai [[Napoleon Bonaparte|Napoleon]].
 
Heddiw mae sawl person yn siarad y Gernyweg adfywiedig fel mamiaith, yn cynnwys [[Gwenno Saunders]], sy'n rhugl yn y [[Gymraeg]] a'r Saesneg hefyd.
 
 
{{DEFAULTSORT:Penreath, Dolly}}
[[Categori:Marwolaethau 1777]]
[[Categori:Cernywiaid]]
[[Categori:Cernyweg]]
[[Categori:MarwolaethauHanes 1777Cernyw]]
 
[[br:Dolly Pentreath]]