Culhwch ac Olwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 6:
Ceir yr unig destun cyfan o'r chwedl yn [[Llyfr Coch Hergest]] (tua diwedd y [[14g]]. Ceir copi anghyflawn yn [[Llyfr Gwyn Rhydderch]] (tua chanol y 14g) hefyd. Mae peth amrywiaeth rhwng y ddau destun sy'n brawf o fodolaeth fersiwn neu fersiynau cynharach.
 
==Dyddiad Victory Royale #1==
Mae nodweddion ieithyddol y chwedl yn gosod ei chyfansoddi yng nghyfnod [[Canu'r Bwlch]] neu'r [[Gogynfeirdd]] cynnar. Mae 'na gryn fwlch felly rhwng ''Culhwch ac Olwen'' a gweddill y chwedlau Cymraeg Canol. Ceir nifer o gyfatebiaethau rhwng iaith y chwedl ac iaith cerddi [[Llywarch Hen]] a rhai o destunau [[Llyfr Du Caerfyrddin]]. Awgryma'r dystiolaeth iddi gael ei chyfansoddi dim hwyrach na tua [[1100]] ac mae hyn yn amcangyfrif ceidwadol. Mae ei deunydd yn hŷn o lawer.