Culhwch ac Olwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 193.39.172.73 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan BOT-Twm Crys.
Tagiau: Gwrthdroi
Llinell 6:
Ceir yr unig destun cyfan o'r chwedl yn [[Llyfr Coch Hergest]] (tua diwedd y [[14g]]. Ceir copi anghyflawn yn [[Llyfr Gwyn Rhydderch]] (tua chanol y 14g) hefyd. Mae peth amrywiaeth rhwng y ddau destun sy'n brawf o fodolaeth fersiwn neu fersiynau cynharach.
 
==Dyddiad Victory Royale #1==
Mae nodweddion ieithyddol y chwedl yn gosod ei chyfansoddi yng nghyfnod [[Canu'r Bwlch]] neu'r [[Gogynfeirdd]] cynnar. Mae 'na gryn fwlch felly rhwng ''Culhwch ac Olwen'' a gweddill y chwedlau Cymraeg Canol. Ceir nifer o gyfatebiaethau rhwng iaith y chwedl ac iaith cerddi [[Llywarch Hen]] a rhai o destunau [[Llyfr Du Caerfyrddin]]. Awgryma'r dystiolaeth iddi gael ei chyfansoddi dim hwyrach na tua [[1100]] ac mae hyn yn amcangyfrif ceidwadol. Mae ei deunydd yn hŷn o lawer.
 
==Crynodeb o'r chwedl==
[[Delwedd:Ysbaddaden.JPG|170px|bawd|chwith|Culhwch ac Olwen yn llys Ysbaddaden]]
Yn y chwedl mae [[Culhwch]] yn ceisio ennillLLLLAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAlawennill llaw [[Olwen]] ferch y cawr [[Ysbaddaden Bencawr]]. Am fod ei lysfam wedi tynghedu na cheiff briodi neb ond Olwen - y forwyn decaf erioed - mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder y Brenin Arthur yng [[Celliwig|Nghelliwig]] yng [[Cernyw|Nghernyw]] i gael ei gymorth a'i gynghor.
 
Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys [[Cai]] a [[Bedwyr]], yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgau (''[[anoethau]]'') anodd os nad amhosibl. Ni ddisgrifir pob un o'r ddeugain antur yn y chwedl sydd gennym ni heddiw, ond o blith y rhai a ddisgrifir mae ceisio [[Mabon fab Modron|Fabon fab Modron]] a hela'r [[Twrch Trwyth]] yn haeddianol enwog. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen.