Gaius Suetonius Paulinus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MastiBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ca:Gai Suetoni Paulí |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: bg:Гай Светоний Павлин; cosmetic changes |
||
Llinell 3:
Ni wyddir man na dyddiad geni Paulinus. Wedi bod yn ''[[praetor|braetor]]'', fe'i gyrrwyd i [[Mauretania]] yn [[42]] fel ''[[legatus|legatus legionis]]'' i ddelio a gwrthryfel. Ef oedd y Rhufeiniwr cyntaf i groesi [[Mynyddoedd yr Atlas]] ac mae [[Plinius yr Hynaf]] yn dyfynnu ei ddisgrifiad o'r ardal.
Yn [[59]] penodwyd ef yn [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|llywodraethwr Prydain]] yn lle [[Quintus Veranius]], oedd wedi marw tra'n llywodraethwr. Bu'n ymladd am ddwy flynedd yn erbyn llwythi [[Cymru]] ac yn [[61]] ymosododd ar Ynys Môn. Yr oedd yr ynys yn amlwg o bwysigrwydd arbennig, nid yn unig yn noddfa i ffoaduriaid oddi wrth y Rhufeiniaid ond yn gadarnle y [[Derwydd
Tra'r oedd Paulinus yng Nghymru, manteisiodd llwyth yr [[Iceni]] ar y cyfle i wrthryfela dan eu brenhines [[Buddug]]. Cipiasant y ''[[colonia]]'' Rhufeinig
Ffurfiodd Paulinus fyddin yn cynnwys y lleng [[Legio XIV Gemina|XIV ''Gemina'']], rhan o'r ''[[Legio XX Valeria Victrix|XX Valeria Victrix]]'' a milwyr cynorthwyol. Yr oedd wedi gyrru neges i [[Legio II Augusta|II ''Augusta'']], oedd yn Isca Dumnoniorum ([[Caerwysg]]) ar y pryd, ond gwrthododd ei phennaeth ymateb i'r alwad. Yr oedd gan Paulinus fyddin o tua 10,000, tra roedd gan Buddug 100,000 yn ôl Tacitus a 230,000 yn ôl [[Dio Cassius]]). Bu brwydr yn rhywle ar hyd ffordd Rufeinig [[Stryd Watling]]. Enillodd Paulinus y fuddugoliaeth, a bu lladdfa enfawr ymysg y Brythoniaid. Lladdodd Buddug ei hun.
Llinell 11:
Wedi derbyn atgyfnerthiad o [[Germania]] aeth Paulinus ati i gosbi'r brodorion am y gwrthryfel, ond adroddodd y [[procurator]], [[Gaius Julius Alpinus Classicianus]], i'r ymerawdwr [[Nero]] fod agwedd Paulinus tuag atynt yn debyg o fagu drwgdeimlad ac arwain at wrthryfel pellach. Penderfynwyd symud Paulinus o'i swydd fel llywodraethwr, a daeth [[Publius Petronius Turpilianus]] yn llywodraethwr yn ei le.
Daeth Paulinus yn ''[[Conswl Rhufeinig|gonswl]] ordinarius'' yn [[66]]. Yn [[69]], yn ystod [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr]] yr oedd yn un o brif gadfridogion yr ymerawdwr [[Otho]] pan oedd Otho'n ymladd yn erbyn [[Vitellius]]. Enillodd fuddugoliaeth dros filwyr Vitellius ger [[Cremona]], ond beirniadwyd ef am nad oedd wedi caniatau i'w filwyr ymlid y fyddin orchfygedig, a chyhuddwyd ef o fradwriaeth. Pan atgyfnerthwyd byddin Vitellius, cynghorodd Paulinus na ddylid mentro brwydr ond anwybyddodd Otho ei gyngor. Gorchfygwyd byddin Otho ym [[Brwydr gyntaf Bedriacum|Mrwydr gyntaf Bedriacum
[[Categori:Llwythau Celtaidd Cymru]]
Llinell 17:
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[bg:Гай Светоний Павлин]]
[[ca:Gai Suetoni Paulí]]
[[de:Gaius Suetonius Paulinus]]
|