John William Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Mireinio lluniau
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Cysylltiadau
Llinell 5:
Ganwyd John William Thomas yn 'rAllt Isaf, [[Pentir]] (Plwyf [[Llandygái|Llandygai]]) ger [[Bangor]] yn fab i Dorothy a William Thomas<ref name=":0">{{Cite web|url=https://journals.library.wales/view/1277425/1290993/34#?xywh=-2673%2C-12%2C8263%2C4192|title=Arfonwyson - Uchelgais a Siom|date=1999-2000|access-date=4/2/2019|website=Cylchgrawn y Llyfrgell Genedlaethol|last=Hughes|first=R. Elwyn|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref><ref name=":1">{{Cite journal|url=|title=Thomas, John Williams (Arfonwyson)|last=Pryse|first=Robert John|date=|journal=Y Gwyddoniadur Cymreig|volume=9|pages=675-680}}</ref>. Er bod y teulu yn dlawd, llwyddwyd i'w anfon am dair blynedd i Ysgol Genedlaethol Pentir (ond un sâl, mae'n debyg, oedd yr athro William Thomas<ref name=":1" />). Yn 17/18 oed aeth i weithio ar ben yr osglawr (inclein) yng Nghilgeraint ([[Dyffryn Ogwen]]) yn trosglwyddo llechi o Chwarel Cae Braich Cafn ([[Chwarel y Penrhyn|Chwarel Penrhyn]]) i'r dramffordd (ceffyl) oedd yn eu cario i [[Porth Penrhyn|Borth Penrhyn]]. Ar ôl ei waith, dechreuodd mynychu dosbarth nos ryw John Williams yn ardal [[Pentir]]. Rhwng pob dim, fe gasglodd digon o arian (yn 18 oed) i fynychu ysgol Robert Roberts (awdur ''Daearyddiaeth'' ([[1816]])), [[Caergybi]] am dri mis. Ymddiddorodd yn arbennig mewn rhifyddeg a seryddiaeth (a'r iaith [[Saesneg]] er mwyn darllen yn eang am y pynciau hyn). Mae un hanesyn lleol amdano yn gorwedd a'i gefn ar domen dail ffres i gadw'n gynnes wrth astudio'r sêr ar nosweithiau oer. Erbyn [[1824]] bu modd iddo agor, a rhedeg, ei ysgol eu hun, ger ei gartref, yn [[Tregarth|Nhregarth]]. I gadw pen llinyn ynghyd, a hefyd yn fodd iddo weld mwy o lyfrau, bu'n dosbarthwr llyfrau i'r llyfrwerthwr ac argraffydd Enoch Jones o [[Biwmares|Fiwmares]]. Yn [[1826]], yn 21 oed, priododd a merch Tai Teilwriaid, Tregarth. Yn ystod y cyfnod hwn rhoddwyd iddo gyfrifoldeb yr Ysgol Genedlaethol yn [[Ffestiniog|Llan Ffestiniog]]. Y Deon Cotton (Bangor), yn enw'r [[Eglwys Loegr|Eglwys Sefydledig]], oedd yn gyfrifol am yr ysgol a diddorol yw gweld i John cael y fath nawdd, gan ei fod yn [[Anghydffurfiaeth|ymneilltuwr]]. Ni pharodd y trefniant yn hir. Yn ôl Robert John Pryse<ref name=":1" />, pechodd John un o'r "clerigwyr" Anglicanaidd a chollodd ei swydd. Symudodd yn ôl i Fangor, gan ddechrau (tua 1830) cadw ysgol yng Nglanrafon yno.
 
Bu hwn yn gyfnod prysur i John. Roedd ganddo eisioes deulu "lled lliosog<ref name=":1" />". Ond fe'i cofid yn bennaf am ei lyfrau. Tra yn ysgol Tregarth 'reodd wedi cynllunio campwaith dysgu mathemateg. Erbyn [[1832]] roedd y tair cyfrol gyntaf o ''Elfenau Rhifyddiaeth neu Rhifgell y Cymro'' wedi'i cyhoeddi (am 6ch yr un). Ceir yma cymysgedd arloesol<ref name=":0" /> o reolau syml rhifyddeg, trafodaeth ar athroniaeth mathemateg ac ar y berthynas rhwng iaith a mathemateg. Hefyd tri rhifyn cyntaf ''Athro i'r Cymro Ieuangc''; compendiwm o wybodaeth gyffredinol ar gyfer y Cymro ifanc oedd y rhain<ref name=":0" />, mae'n debyg i John bwriadu ryw 30 rhifyn i gyd<ref name=":1" />. Yn 1833 gwelwyd ''Geiriadur Cymreig a Seisoneg'' ar werth. Yn eu erthyglau cofiannol mae [[Robert John Pryse]]<ref name=":1" />, [[R. Elwyn Hughes (gwyddonydd)|Elwyn Hughes]]<ref name=":0" /> a [[Llewelyn Gwyn Chambers|Gwyn Chambers]]<ref name=":2">{{Cite web|url=https://journals.library.wales/view/1394134/1400898/5#?xywh=-2789%2C-222%2C8469%2C4297|title=Elfennau Rhifyddiaeth; tamaid anorffenedig.|date=1973|access-date=4/2/2019|website=Y Gwyddonydd|last=Chambers|first=Llewelyn Gwyn|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> yn gytun mai anhawsder mawr John oedd eu ddefnydd o ieithwedd glogyrnaidd a ffug-wyddonol [[William Owen Pughe]] wrth ysgrifenni. Roedd y llyfrau yn anodd iawn i neb eu darllen - heb son am werthfawrogi cyfoeth eu cynnwys. Ni fuont yn llwyddiant masnachol a rhoddwyd y gorau i freuddwyd yr ''Elfenau''. Yng Ngorffennaf [[1834]] ceisiodd nifer o'i gyfeillion, ar ei ran, ennill swydd gyllidwr (''excise officer'') iddo, ond yn ofer. Symudodd ei deulu yn ôl i 'rAllt Isaf at ei rhieni a mudodd yntau i chwilio am waith i [[Llundain|Lundain]] yn Awst [[1834]].
 
== Symud i Lundain ==