William Henry Preece: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Adolygu'r tudalen
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Cysylltiadau
Llinell 7:
| caption = William Henry Preece; llun allan o ''Oliver Heaviside: Sage in Solitude''
}}
Peiriannydd o fri, arloeswr yn natblygiad telegraff a pheirianneg trydan a ddaeth yn Brif Beiriannydd [[Swyddfa Bost Gyffredinol|Swyddfa Bost]] [[Prydain Fawr|Prydain]] (1892) oedd y Cymro '''William Henry Preece''' KCB FRS ([[15 Chwefror]] [[1834]] – [[6 Tachwedd]] [[1913]]).<ref>[http://llennatur.com/files/u1/Cylchgrawn69.pdf [[Llên Natur]];] Rhif 69 Tachwedd 2013</ref> . Trwy ei diddordeb a'i swydd yn y Swyddfa Bost, bu'n mentor ymarferol pwysig i Guglielmo Marconi<ref>{{Cite web|url=https://www.history.com/topics/inventions/guglielmo-marconi|title=Guglielmo Marconi|date=31 Ionawr 2019|access-date=21/1/19|website=History.com|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. O ganlyniad i hyn, o bosib, bu i Marconi perfformio sawl campwaith hanesyddol yng Nghymru.
 
== Bywyd cynnar ==
Ganwyd Preece ym Mryn Helen, [[Bontnewydd, Arfon|Bontnewydd]], [[Sir Gaernarfon]] yn fab hynaf i Richard Matthias Preece a oedd wedi dod i'r Gogledd o'r [[Y Bont-faen|Bontfaen]] ym Morgannwg a phriodi merch o [[Caernarfon|Gaernarfon]]. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Coleg y Brenin ([[Y Strand]], [[Llundain]] ar y pryd) cyn mynychu [[Coleg y Brenin, Llundain]]. Bu hefyd yn astudio wrth draed [[Michael Faraday]] yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain. Faraday a daniodd ynddo diddordeb oes mewn [[trydan]]. Yn [[1870]] ymunodd a'r [[Swyddfa Bost Gyffredinol|Swyddfa Bost]] - a bu yno am 29 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn cyfrannodd i nifer o ddyfeisiadau a gwelliannau; gan gynnwys system signal a ychwanegodd yn sylweddol i ddiogelwch y [[Rheilffordd]]. Bu'n flaengar ym myd telegraff - a datblygodd ei gyfundrefn ddiwifr ei hun yn [[1892]]. Dibynna hwn ar [[Anwythiant trydanol|anwythiad electromagnetig]]. Er i Preece lwyddo i anfon negeseuon ar draws [[Môr Hafren]], pellter hyd at ryw 3.1 milltir, mi 'roedd y drefn yn anhylaw - yn dibynnu ar drosglwyddydd a derbynnydd milltiroedd o hyd. Er hynny, daliodd ati i anfon negeseuon dros gulforoedd eraill megis [[Afon Menai]] a'r Solent, o'r tir i oleudy (e.e. [[Ynysoedd y Moelrhoniaid]]) a rhwng pyllau glo a'i gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn bu Preece yn gyfrifol (gyda George Gabriel Stokes ag eraill) am ddigalonni [[David Edward Hughes]] yn ei ymchwil ([[1879]]) a fyddai, mae'n debyg, wedi arwain at ddarganfod tonnau radio. Mynnai'r "arbenigwyr" mai anwythiad oedd yr hyn yr oedd Hughes wedi'i ganfod. Mae'n debyg nad oedd Preece yn arbennig o hyblyg a'i syniadau a bu dadlau (diddichell) rhyngddo a sawl cawr yn ei faes gan gynnwys Oliver Lodge ac Oliver Heaviside dros y blynyddoedd
 
Yn 1880 dyfarnodd yr Uchel Lys mai telegram oedd y teleffon newydd. Gan mai'r Swyddfa Bost oedd a phob hawl rheoli technoleg y telegram yng ngwledydd Prydain, bu Preece yn rhan o'r broses o gyflwyno teleffon Alexander Graham Bell yma. Yn 1881 manteisiodd y Swyddfa bost ar y sefyllfa trwy addasi rhai o'r cyfnewidfeydd i ddelio a teleffon. Yn Ne Cymru (Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd) y bu'r gyntaf o'r rhain. Yn 1881 etholwyd Preece yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ac yn 1892 fe'i hapwyntiwyd yn Brif Beiriannydd y Swyddfa Bost. Mae'n debyg y bu'n enwog am ei darlithoedd syml ac ymarferol i'r cyhoedd ar y datblygiadau newydd. Cyhoeddodd dau lyfr a nifer o bapurau ar y teleffon.