Thomas Stepney: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Roedd '''Syr Thomas Stepney, 5ed Barwnig''' (tua 1668 – tua 1745) yn dirfeddiannwr a gwleidydd Cymreig a fu'n eistedd yn [[Tŷ'r Cyffredin|Nhŷ'r Cyffredin]] fel [[Aelod Seneddol]] [[Sir Gaerfyrddin (etholaeth seneddol)|Sir Gaerfyrddin]] o 1717 i 1722.
 
Thomas oedd unig fab Syr John Stepney, 4ydd Barwnig [[Prendergast]], [[Sir Benfro]] a'i wraig Justina Van Dyck, merch Syr [[Anthony Van Dyck]], yr arlunydd. Etifeddodd y farwnigaeth ar farwolaeth ei dad ym 1681. Ym 1691, priododd Margaret Vaughan, merch John Vaughan o Lanelli. <ref>[https://archive.org/stream/cu31924092524374#page/n201/mode/2up Complete baronetage, Cokayne, George Edward, 1825-1911''Stepney''] adalwyd 22 Chwefror 2019</ref> Roedd hi'n gyd etifeddes cangen o deulu Vaughan y [[Gelli Aur]], a fu'n ASau Sir Gaerfyrddin yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Gwasanaethodd Thomas fel [[Siryfion Sir Benfro yn yr 17eg ganrif|Uchel Siryf Sir Benfro]] yn y flwyddyn 1696 i 1697. <ref>[https://www.historyofparliamentonline.org/volume/1715-1754/member/stepney-sir-thomas-1668-1745 The History of Parliament: the House of Commons 1715-1754, ed. R. Sedgwick, 1970 Sir Thomas Stepney] adalwyd 22 Chwefror 2019</ref> Ym 1714 penderfynodd adeiladu [[Tŷ Llanelli]], tŷ trefol yn Llanelli. <ref>[http://www.bbc.co.uk/blogs/wales/entries/7a11480b-60cb-3aec-b75d-3f9a6b5cf876 BBC Wales ''Llanelly House: a perfect example of a Georgian town house''] adalwyd 22 Chwefror 2019</ref>
 
Dychwelwyd Stepney yn ddiwrthwynebiad fel Aelod Seneddol dros Sir Gaerfyrddin mewn isetholiad ar 23 Mai 1717. Nid safodd eto yn etholiad cyffredinol 1722 nac wedi hynny.