Cyfathrach rywiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: arz, lv, tr, war
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: id:Persetubuhan; cosmetic changes
Llinell 1:
[[delweddDelwedd:Coition of a Hemisected Man and Woman.jpg|bawd|200px|Darlun gan [[Leonardo da Vinci]] yn dangos cyfathrach rywiol]]
 
Math o ymddygiad rhywiol rhwng pobl yw '''cyfathrach rywiol''' neu '''ymrain'''. Y modd mwyaf cyffredin o gael rhyw yw i ddyn osod ei [[pidyn|bidyn]] mewn [[fagina]] dynes. [[Esblygiad|Esblygodd]] cyfathrach rywiol fel rhan o'r broses [[atgenhedlu]], ond mae agweddau [[emosiwn|emosiynol]] a [[cymdeithas|chymdeithasol]] i gyfathrach rhywiol yn ogystal â rhai [[bioleg]]ol. Yn wir, yn aml mae pobl yn cael rhyw fel rhan o berthynas, neu er mwyn y cyffro a'r pleser corfforol yn unig, heb gael plant.
 
== Y broses ==
Yn aml, mae gweithredoedd megis fflyrtian, [[cusan|cusanu]]u, cyffwrdd, mwytho, a dadwisgo yn rhagarweiniad i gyfathrach rhywiol. Wrth i hyn ddigwydd, mae pidyn y dyn yn ehangu a'n caledu ([[codiad]]), ac mae organau cenhedlu'r ddynes yn cynhyrchu hylifau llithrigol.
 
Pan osodir y pidyn o fewn y fagina, mae'r dyn neu'r merch neu'r ddau yn symud eu morddwydydd, fel fod y pidyn yn symyd nol y mlaen tu fewn i'r fagina, sy'n greu ffrithiant. Mae hyn yn ymgyffroi'r ddau, gan arwain at [[orgasm]] ac [[alldafliad]] fel arfer.
 
== Atgenhedlu rhywiol ==
Cyfathrach rywiol faginaidd yw'r modd sylfaenol o atgenhedlu ymysg [[bod dynol|bodau dynol]]. Mae'n arwain at [[alldafliad]], lle mae cyfangiad nifer o [[cyhyr|gyhyrau]] cludo [[semen]] o'r pidyn i gromgell y fagina (fel arfer, mae'r dyn yn cael [[orgasm]] wrth i hyn ddigwydd). Mae'r semen yn cynnwys miliynau o gelloedd [[sberm]], y [[gamet]]au gwrywaidd. Gall sberm nofio wefyn trwy [[ceg y groth]] i'r groth, ac o'r groth i'r [[tiwbiau ffalopaidd]]. Os mae'r ddynes yn cael orgasm wrth i'r dyn alldaflu, neu'n fuan wedyn, fe all y lleihád dros dro yn maint y fagina, a chyfyngiadau cyhyrol yn y groth, yn cynorthwyo i'r sberm cyrhaedd y tiwbiau ffalopaidd (er hynny, mae'n bosib i ddynes mynd yn feichiog heb iddi gael orgasm). Os mae [[ŵygell]] ffrwythlon (gamet benywaidd) yn bresennol yn y tiwbiau ffalopaidd, mae'r sberm yn uno â hi, proses o'r enw [[ffrwythloniad]] sy'n creu [[embryo]] newydd. Pan mae embryo o'r fath yn mewnblannu ar mur y groth, mae'r ddynes yn [[beichiogrwydd|feichiog]]. Mae beichiogrwydd yn parhau am dua naw mis, ac yna mae [[plentyn]] yn cael ei eni.
 
Os mae'r dyn a'r dynes yn ffrwythlon, mae beichiogrwydd pob tro yn ganlyniad posib i gyfathrach rhywiol. Gellir defnyddio dulliau effeithlon o [[atal-cenhedlu]] i osgoi hyn.
 
== Mathau arall o gyfathrach rhywiol ==
Yn ogystal â chyfrach rhywiol faginaidd, ceir sawl fath arall. Mewn [[cyfathrach rywiol eneuol]], defnyddir y [[ceg]] a'r [[tafod]] i gyffroi'r [[organau cenhedlu]]. Mewn [[cyfathrach rywiol refrol]], fel arfer, mae dyn yn gosod ei bidyn yn [[anws]] ei gymar. [[Hunan-leddfu]] ar y cyd yw'r ffurf mwyaf diogel o gael rhyw mae'n debyg.
 
== Dolenni allanol ==
 
* [http://www.canllaw-online.com/fe_w/family.asp?nodeidl2=293&level=3&nodeidl3=305 Canllaw i bobl ifanc]
* [http://www.ruralwellbeing.org.uk/cy/between_the_sheets.php Canllaw i bobl ifanc]
* [http://users.aber.ac.uk/scty04/cy/resources/fss.shtml Canllaw yn canolbwyntio ar gyfathrach cyfunrhyw]
* [http://www.rhegiadur.com Geirfa anffurfiol]
 
== Gweler hefyd ==
* [[Rhyw diogel]]
* [[Orgasm]]
* [[Atgenhedlu]]
* [[Tuedd rhywiol]]
* [[Hunaniaeth rhywiol]]
* [[Rhestr o gyfuniadau rhywiol]]
* [[Hunan-leddfu]]
* [[Chwantau anniferol]]
* [[Trais rhywiol]]
* [[Organau cenhedlu]]
* [[Gweinlyfu]]
 
[[Categori:Rhyw]]
Llinell 69:
[[hy:Սեռական հարաբերություն]]
[[ia:Coito]]
[[id:Hubungan seksualPersetubuhan]]
[[ilo:Sexual a panaginnala]]
[[it:Penetrazione sessuale]]