Medb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ru:Медб |
newid y rhagymadrodd ychydig; delwedd |
||
Llinell 1:
[[
▲Mae '''Medb''', brenhines [[Connacht]] yn [[Iwerddon]], hefyd '''Meabh''' neu '''Maeve''' yn gymeriad ym mytholeg Iwerddon, yn enwedig yn y [[Táin Bó Cúailnge]] ("Cyrch Gwartheg Cúailnge"), un o'r gweithiau pwysicaf yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon. Credir ei bod yn wreiddiol yn dduwies sofraniaeth, a bod yn brenin yn ei phriodi yn seremonïol.
Roedd Medb yn ferch i [[Eochaid Feidlech]], [[Uchel Frenin Iwerddon]]. Priododd nifer o weithiau. Ei gŵr cyntaf oedd [[Conchobar mac Nessa]] o [[Ulster]], ond ni pharhaodd y briodas yn hir. Priododd Conchobar chwaer Medb, Eithne, wedyn, ond llofruddiodd Medb hi.
[[Image:sligo_medb.jpg|200px|bawd|chwith|'Carnedd Medb' ar ben Cnoc na Riabh, [[Swydd Galway]].]]
Mae Medb ac un arall o'i gwŷr, [[Ailill mac Mágach|Ailill]] yn ymddangos yn y ''Táin Bó Cúailnge''. Pan mae Medb ac Ailill yn cymharu eu cyfoeth, maent bron yn gyfartal, ond mae Ailill yn berchen ar y tarw [[Finnbhennach]]. Ar un adeg roedd y tarw yn perthyn i Medb, ond gan ei fod yn anfodlon cael gwraig yn berchennog arno, crwydrodd i ffwrdd ac ymuno â buches Ailill. I geisio dod yn gyfartal â'i gŵr mae Medb yn codi byddin i ddwyn y tarw enwog [[Donn Cuailnge]] o Cúailnge (Cooley).
|