Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu ychydig; llun
llun arall
Llinell 1:
[[Delwedd:Britannica Crowd 9th Century Crwth.png|200px|bawd|Crythor yn chwarae'r crwth. ''Beibl'' [[Siarl Foel]], 9fed ganrif.]]
[[Delwedd:Crwth-in-case.jpg|200px|bawd|Copi modern o grwth Cymreig o'r 18fed ganrif.]]
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]]
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ([[Lladin IselLlafar]]: ''chrotha'', [[Saesneg]]: ''crowd''), nid annhebyg i'r [[fiolin]], a chanddo chwe [[Cerdd Dant|thant]] (tri yn yn y fersiynau cynnar), a genir â [[bwa]]. Mae ganddo ffrâm lled hirsgwar â'r rhan isaf wedi'i llenwi i mewn i greu blwch sain, a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r [[crythor]] yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde.
 
Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol [[Celtiaid|Geltaidd]] a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd [[Brython|Brythonaidd]] cynnar.
Llinell 13 ⟶ 14:
:a baw arall â'i berrwg.<ref>''Gwaith Lewys Glyn Cothi'', 63.25-8.</ref>
 
Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r [[telyn|delyn]]. Roedd yn boblogaidd iawn ym [[Môn]] yn yr [[16eg ganrif]] a'r [[17eg ganrif]], fel y tystia marwnad [[Huw Pennant]] (fl. [[1565]]-[[1619]]) i'r crythor [[Siôn Alaw]]: ''

:Y crwth hwn, croyw a thyner /
:Y gwnâi ei was pynciau pêr /
:Ac weithian mewn cwynfan cawdd /
:Y felysgerdd a floesgawdd.<ref>''.Traddodiad Cerdd Dant ym Môn''.</ref>

Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y [[19eg ganrif]].
 
Ceir sawl chwedl werin am '[[Crythor Du|Crythor Du]]' ac enwir dwy gainc ar ei ôl, sef 'Erddigan y Crythor Du' a 'Chainc y Crythor Du Bach'.