Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crwth"

Lleihawyd o 4 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(llun arall)
BNo edit summary
[[Delwedd:Crwth-in-case.jpg|200px|bawd|Copi modern o grwth Cymreig o'r 18fed ganrif.]]
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]]
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ([[Lladin Llafar]]: ''chrotha'', [[Saesneg]]: ''crowd''), nid annhebyg i'r [[fiolin]], a chanddo chwe [[Cerdd Dant|thant]] (tri yn yn y fersiynau cynnar), a genir â [[bwa]]. Mae ganddo ffrâm lled hirsgwar â'r rhan isaf wedi'i llenwi i mewn i greu blwch sain, a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r [[crythor]] yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde.
 
Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol [[Celtiaid|Geltaidd]] a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd [[Brython|Brythonaidd]] cynnar.