Cywion Cranogwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Grŵp o feirdd benywaidd sy'n cyfansoddi a pherfformio yn yr Iaith Gymraeg yw '''Cywion Cranogwen'''. Sefydlwyd y prosiect yn 2017 a pherfformwyd yn Eis...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
[[Delwedd:Cywion Cranogwen yn Sesiwn Fawr 2018.jpg|bawd|Cywion Cranogwen yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau, Gorffennaf 2018]]
Ar eu taith gyntaf, ''Corddi'', yn ystod Tachwedd 2017, ymwelwyd â Chaerfyrddin, Dinbych a Chaernarfon.<ref>{{Cite web|url=https://www.facebook.com/events/cywion-cranogwen-ar-daith/904226396420674/|title=Cywion Cranogwen AR DAITH|access-date=2019-02-26|website=www.facebook.com|language=cy}}</ref> Cyhoeddwyd cerddi o'r daith hon fel atodiad i rifyn Gwanwyn 2018 cylchgrawn ''[[Y Stamp]]''.<ref>{{Cite web|url=https://www.ystamp.cymru/single-post/2018/04/21/RHIFYN-Y-STAMP-4---Gwanwyn-2018|title=RHIFYN: Y STAMP #4 - Gwanwyn 2018|access-date=2019-02-26|website=Cylchgrawn y Stamp|language=en}}</ref> Ar gyfer taith Haf 2018, ymwelwyd â Chaernarfon, Llangrannog - sef bro Cranogwen ei hun, [[Gŵyl Arall]], [[Sesiwn Fawr Dolgellau]], a Gŵyl Ffrinj [[Eisteddfod Ryngwladol Llangollen]]; cyn perfformio sioe newydd, ''Llifo'', ar lwyfan y Babell Lên yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018|Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd]], y tro cyntaf i Judith Musker-Turner ymddangos fel aelod o'r prosiect. Yn Chwefror 2019, cafwyd perfformiad gan Gywion Cranogwen yn nigwyddiad ''Estyn yn Ddistaw'' [[Llenyddiaeth Cymru]], sef dydd o fyfyrdod yn [[Y Senedd (adeilad y Cynulliad)|Y Senedd]] ar farddoniaeth Rhyfel a Heddwch yng Nghymru.<ref>{{Cite web|url=https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/holy-glimmers-of-goodbyes/|title=Estyn yn Ddistaw|access-date=2019-02-26|website=Literature Wales|language=cy}}</ref> Dyma oedd y tro cyntaf i Sara Borda Green ymddangos fel aelod o'r grŵp.
 
== Llyfryddiaeth ==
 
* ''Cywion Cranogwen - Ar Daith''. Atodiad i'r ''Stamp'', Gwanwyn 2018 - cerddi.
 
== Cyfeiriadau ==