Cymdeithas John Gwilym Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Ychwanegiadau
Llinell 2:
 
Sefydlwyd y Gymdeithas mewn noson arbennig yn Bar 1884, rhan o'r Brifysgol. Dathliad o allbwn llenyddol dinas [[Bangor]] oedd y noson, gyda darlleniadau, perfformiadau a cherddoriaeth.
 
== To Iau ar Ben Tŷ Awen ==
Ysgrifennwyd cywydd cyfarch i'r Gymdeithas gan y bardd Eurig Salisbury. [https://www.eurig.cymru/to-iau-ar-ben-t375-awen--medi-2018.html]
 
Dyma bwt ohoni:
 
"Mae 'na griw ym Mangor wen,
 
Un criw i swcro'r awen,
Criw llafar sy'n creu llwyfan
Ac wrth roi gwerth ar y gân
Yn bloeddio'n anterth chwerthin,
'Nosweithiau byw, yn syth bìn!'"
 
== Digwyddiadau ==
Yn ystod y flwyddyn cyntaf trefnwyd sawl digwyddiad ar gyfer cymuned myfyrwyr y Brifysgol. Ond y digwyddiad pwysicaf yn y nyddiau cynnar y gymdeithas, heb oes, oedd y [https://golwg360.cymru/celfyddydau/llen/534551-darlithydd-mynegiant-coleg-actorion-cymraeg sgwrs flynyddol] a gynhaliwyd er cof am John Gwilym Jones ei hun.
 
== Ac Eto Nid Myfi ==
Ar Fawrth y 15fed 2019 bydd y Gymdeithas yn llwyfannu cynhyrchiad o un o ddramâu enwocaf John Gwilym Jones, sef ''Ac Eto Nid Myf''i. Bydd y digwyddiad yn hanesyddol gan mai dyma'r tro cyntaf i'r gymdeithas, a'i rhagflaenydd (Cymdeithas Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor) lwyfannu cynhyrchiad yn nghanolfan Pontio.
 
Yn ôl y gymdeithas: "Dyma ddrama ddifyr a bywiog sy’n trafod llencyndod a thyfu i fyny, cariad a pherthynas pobl â’i gilydd, ond y cwestiynau pwysicaf a godir ganddi yw pwy ydym ni, a beth sy’n pennu llwybr ein bywyd. Perfformiwyd y ddrama hon am y tro cyntaf gan aelodau Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, Coleg Bangor, a dyma berfformiad gan y gymdeithas honno ar ei newydd wedd a dan ei henw newydd, sef Cymdeithas John Gwilym Jones."
 
Fe werthodd y tocynnau i gyd mewn llai nag wythnos i'r digwyddiad fynd yn gyhoeddus.
 
== Galw am ail-enwi Stiwdio Pontio ==
Ym mis Hydref 2018 daeth y gymdeithas i sylw'r wasg genedlaethol pan ysgrifenasant lythyr cyhoeddus yn galw i ail-enwi Stiwdio Pontio ar ôl John Gwilym Jones.[https://golwg360.cymru/newyddion/addysg/532086-galw-enwi-rhan-ganolfan-pontio-john-gwilym-jones] Roedd y llythyr wedi ei arwyddo gan ddegau o ffigurau amlwg o fyd y theatr Gymraeg, gan gynnwys Cefin Roberts. Serch hynny, gwrthodwyd y cais.
 
== Dolenni ==
 
* "Gwedd newydd i gymdeithas ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor." BBC Cymru Fyw [https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/45473650]
* "Galw am ail-enwi rhan o ganolfan Pontio ar ôl John Gwilym Jones", Golwg 360 [https://golwg360.cymru/newyddion/addysg/532086-galw-enwi-rhan-ganolfan-pontio-john-gwilym-jones]
* "Beirniadaeth yn gadael ei hôl ar iaith lafar Meic Povey", Golwg 360 [https://golwg360.cymru/celfyddydau/llen/534556-beirniadaeth-gadael-iaith-lafar-meic-povey]
* "Cywion John Gwil yn cynnal S4C yn y dyddiau cynnar", Golwg 360 [https://golwg360.cymru/celfyddydau/llen/534554-gwaddol-john-gwil-cynnal-dyddiau-cynnar]
* "Darlithydd mynegiant, cyn bod coleg i actorion Cymraeg", Golwg 360[https://golwg360.cymru/celfyddydau/llen/534551-darlithydd-mynegiant-coleg-actorion-cymraeg]
* "Dramâu John Gwil yn haeddu cael eu llwyfannu’n broffesiynol", Golwg 360 [https://golwg360.cymru/celfyddydau/llen/534549-dramau-haeddu-cael-llwyfannun-broffesiynol]
* Cymdeithas John Gwilym Jones, Gwefan Undeb Myfyrwyr Bangor. [https://www.undebbangor.com/opportunities/society/19583/]
* Tudalen Facebook Cymdeithas John Gwilym Jones. [https://www.google.com/search?rlz=1C1GCEA_enGB762GB762&q=cymdeithas+john+gwilym+jones&spell=1&sa=X&ved=0ahUKEwj_073-5NngAhUEtnEKHVK_DwQQBQgrKAA&biw=1033&bih=639]
* Cyfrif Twitter Cymdeithas John Gwilym Jones. [http://www.twipu.com/cymdeithasJ]
 
[[Categori:Cymdeithasau Cymreig]]