Derwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 23:
* ''Major Oak''
Efallai mai’r ''Major Oak'' yn [[Fforest Sherwood]], [[swydd Nottingham]] ydy’r dderwen enwocaf ym Mhrydain. Credir ei bod hi’n 800-1100 mlwydd oed ac yn ôl llên gwerin, defnyddid y goeden hon gan [[Robin Hood]] a’i ddynion i gael cysgod. Amcangyfrifir bod pwysau’r Major Oak yn 23 tunnell a bod ei chengl yn 33 troedfedd. Cafwyd yr enw ‘Major Oak’ oddi wrth Major Hayman Rooke a roes i ni ddisgrifiad o’r goeden yn 1790. Ers yr [[Oes Fictoria|Oes Fictoraidd]], mae canghennau’r Major Oak yn cael eu cynnal gan system sgaffaldio ac yn 2003, dechreuwyd blanhigfa yn [[swydd Dorset|Norset]] trwy blannu glasbrennau a dyfwyd o fes y Major Oak. Diben y blanhigfa hon oedd astudio hanes a [[DNA]]'r Major Oak.<ref name=Coleman> Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 38</ref>
 
==Ecoleg==
Mae‘r dibyniaeth y nifer mwyaf o rywogaethau ar y ddwy rywogaeth o dderwen yn rhagori ar unrhyw fath arall o goeden ym Mhrydain[angen ffynhonnell].
 
Darafal neu afal y dderwen yw hwn, math o chwydd (gall), neu ardyfiant planhigol, ar dderw wedi ei achosi gan gacynen chwyddi, gall-wasp yn Saesneg. (Dywedir mai tarddiad y S. ‘’gall’’ yw dieithr, felly ”tyfiant dieithr”, - cymharer (cymh. llygoden Ffrengig, cytiau Gwyddelod ayb.)[3]
 
==Mytholeg a chred==
Mewn nifer o ddiwylliannau Indo-Ewropeaidd, gan gynnwys y Celtiaid (gweler drunemeton), roedd y dderwen yn goeden sanctaidd. Derwen yw tarddiad poblogaidd y gair Gymraeg derwydd, ond gwyddys bellach nad oes sail ieithyddol i hynny. Ym mytholeg y Germaniaid roedd y goeden yn perthyn i Ddonar, duw'r mellt. Roedd y Groegiaid yn ei chysylltu â Zeus, pennaeth duwiau Olympws; plennid derw sanctaidd mewn cysegrfannau fel Dodona. Mae'r dderwen yn symboleiddio nerth gwrywaidd a dyfalbarhad.
 
==Cyfeiriadau==