William Henry Preece: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Cyfeiriadau
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Cyfeiriad
Llinell 18:
Rhwng [[1885]] a [[1889]] roedd yr [[Almaenwyr|Almaenwr]] Heinrich Hertz<ref>{{Cite web|url=http://www-history.mcs.st-andrews.ac.uk/Biographies/Hertz_Heinrich.html|title=Heinrich Rudolf Hertz|date=2007|access-date=22/2/19|website=MacTutor History of Mathematics|last=J J O'Connor a E F Robertson|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> wedi gosod sylfaeni damcaniaethol tonfeddi radio - ac wedi gwneud sawl arbrawf i'w arddangos. Ond nid oedd wedi meddwl am ddefnydd ymarferol i'r ffenomen. Yn [[1894]], yn ddatblygiad o syniadau Herz, gwnaeth [[Yr Eidal|Eidalwr]] o'r enw Guglielmo Giovanni Maria Marconi<ref>{{Cite web|url=https://www.history.com/topics/inventions/guglielmo-marconi|title=Guglielmo Marconi|date=31 Ionawr 2019|access-date=22/2/19|website=History.com|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> arsylliadau tyngedfennol. Erbyn [[1895]] 'roedd yn argyhoeddedig ei fod wedi darganfod modd newydd (radio yn hytrach nag anwythiad) o ganfod signal o bellter. Anfonodd ei syniad i'r Weinyddiaeth Bost a Thelegraff yn [[Rhufain]]. Anwybyddwyd ei lythyr yn llwyr (yn wir ysgrifennwyd nodyn yn cyfeirio at y gwallgofdy lleol ar ei thraws). Sicrhaodd Marconi lythyr cyflwyniad i lysgennad yr Eidal yn [[Llundain]] gan gyfaill o ddiplomydd uchel a theithiodd, gyda'i fam, i [[Lloegr|Loegr]]. Ym mhorthladd [[Dover]] bu gryn ddiddordeb yn cynnwys ei fagiau ac ar unwaith anfonwyd neges i Bencadlys y [[Y Llynges Frenhinol|Llynges]]. Fe'i gwahoddwyd yno'n syth - lle'i cyflwynwyd i William Henry Preece. Dros y blynyddoedd i ddilyn bu Preece yn gefn ac yn gymorth iddo. Defnyddiodd Preece ei ddoniau cyfathrebu i gyflwyno syniadau Marconi i'r cyhoedd mewn dwy ddarlith dyngedfennol (Neuadd Toynbee, 11 Rhagfyr [[1896]] a'r Sefydliad Brenhinol, 4 Mehefin [[1897]]). Ar ôl arbrofion ar dir y fyddin ger [[Caersallog|Gaersallog]], ar 13 Mai [[1897]] danfonodd Marconi signal radio o Drwyn Larnog yn ne Cymru i [[Ynys Echni]], 3.7 milltir i ffwrdd ym [[Môr Hafren]]. Yn [[1892]] roedd Preece wedi defnyddio'r un lleoliad ar gyfer ei arbrofion ef ei hun.<ref>[http://www.100welshheroes.com/cy/biography/williamhenrypreece Arwyr Cymru] adalwyd 08 Tachwedd 2013</ref>Profodd hyn y gallai radio weithio dros ddŵr yn ogystal â thir ac felly fod o ddefnydd i'r Llynges hollbwysig ac i longau eraill. Preece oedd prif gynorthwyydd Marconi, gan sicrhâi iddo gefnogaeth ariannol o'r Swyddfa Bost.
 
Ym [[1901]], anfonodd Marconi signalau radio o [[Poldhu]], [[Cernyw]] i [[Newfoundland (ynys)|Newfoundland]], [[Canada]]. Ychydig wedi hynny adeiladodd Marconi orsaf radio bwerus yn [[Waunfawr|y Waunfawr]] ger [[Caernarfon]]; nepell o gartref William Preece. Tyfodd hwn i fod yn un o orsafoedd cyfathrebu (radio donfedd hir) pwysicaf [[Yr Ymerodraeth Brydeinig|Ymerodraeth Prydain]] am nifer o flynyddoedd (1912-1938)<ref>{{Cite web|url=https://www.coflein.gov.uk/cy/site/405838/details/marconi-long-wave-transmitting-station-waunfawr-transmitting-station-plas-y-celyn-cefn-du|title=Marconi long wave transmitting station, Waunfawr Transmitting Station, Plas y Celyn, Cefn Du|date=2009|access-date=27/2/19|website=Coflein|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. Felly, er i ymdrechion Preece ei hun i ddatblygu system ddiwyfr dros bellter fethu, roedd ei gymorth i Marconi'n allweddol yn natblygiad cyfathrebu torfol.
 
== Blynyddoedd Olaf ==