Hathor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: uk:Хатхор
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
Hathor oedd prif amddiffynes a noddwr [[merch]]ed yn yr Hen Aifft. Fel duwies serch a hyfrydwch roedd hi'n boblogaidd iawn. Roedd hi'n feistres cerddoriaeth ac adloniant.
 
Ond yn ogystal â gofalu am y Byw gofalai am y Meirw fel "Brenhines y Gorllewin" sy'n croesawu eneidiau. Yn yr agwedd hon roedd hi'n gysylltiedig yn arbennig â [[necropolis]] [[Thebes, (Yr Aifft)|Thebes]].
 
Prif gysegrfan Hathor oedd [[Teml Dendera|eu theml yn Dendera]], yn yr [[Aifft Uchaf]] rhwng [[Abydos]] a [[Luxor]]. Yno fe'i haddolid gyda'i fab [[Ihy]] "Canwr y ''Sistrum''." Dethlid gwyliau crefyddol mawr yn Dendera. Y pwysicaf oedd i groesawu'r Flwyddyn Newydd, penblwydd Hathor.