Thutmosis III: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Brenin [[yr Hen Aifft]] yn ystod [[y Deyrnas Newydd]] oedd '''Thutmosis III''' neu '''Thutmose III''' (ca. 1479 CC - 1425 CC). Ef oedd chweched brenin y [[18fed brenhinllin]].
 
Roedd Thutmosis III yn fab i'r brenin Thutmosis II ac un o'i wragedd, Isis. Bu farw Thutmosis II pan oedd Thutmosis III yn dal yn blentyn bychan, ac er i Thutmosis III ddod yn frenin mewn theori, copiwydcipiwyd grym gan [[Hatshepsut]], prif wraig Thutmosis II. Bu Hatshepsut yn rheoli'r Aifft am 22 mlynedd, a dim ond ar ôl ei marwolaeth hi y daeth Thutmosis III yn frenin mewn gwirionedd.
 
Teyrnasodd Thutmosis III am 32 mlynedd wedi marw Hatshepsut, a dangosodd ei hun yn un o gadfridogion mwyaf galluog yr Hen Aifft. Dywedir iddo gipio 350 o ddinasoedd, ac erbyn diwedd ei oes, roedd ei deyrnas yn ymestyn o [[afon Ewffrates]] i dde [[Nubia]]. Ef oedd y cyntaf o frenhinoedd yr Aifft i ymgyrchu tu hwnt i afon Ewffrates, yn ystod ei ymgyrchoedd yn erbyn [[Mitanni]]. Cofnodir ei fuddugoliaethau mewn arysgrifau a cherfluniau ym nheml [[Karnak]] ger [[Luxor]].