Cambyses II, brenin Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: bg:Камбис II
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 3:
Roedd Cambyses yn fab i [[Cyrus Fawr]]. Pan goncrodd Cyrus [[Babilon]] yn 539 CC, ceir Cambyses yn arwain y gwasanaethau crefyddol, ac roedd datganiad Cyrus i drigolion Babilon yn cynnwys enw Cambyses gyda'i dad yn y gweddïau i [[Marduk]]. Gelwir ef yn frenin Babilon ar un dabled.Yn [[530 CC]], cyn i Cyrus gychwyn ar ei ymgyrch olaf, gwnaeth ei fab yn gyd-frenin.
 
Yn 525 CC, ymgyrchodd Cambyses yn erbyn [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]], lle'r oedd [[Amasis II]] newydd farw, ac wedi ei olynu gan ei fab, [[Psammetichus III]]. Gorchfygodd fyddin yr Aifft mewn brwydr ger [[Pelusium]], ac yn fuan wedyn cipiodd ddinas [[Memphis (Yr Aifft)|Memphis]]. Daliwyd Psammetichus a'i ddienyddio wedi iddo wrthryfela. Ceisiodd Cambyses goncro [[Kush]], teyrnasoedd [[Napata]] a [[Meroe]] yn ne yr hyn sy'n awr yn [[Sudan]], ond bu raid iddo ddychwelyd wedi i'w fyddin fethu croesi'r anialwch. Ceir nifer o hanesion amdano gan [[Herodotus]], lle ceir traddodiad iddo ladd [[Apis (mytholeg))|tarw Apis]], a chael ei gosbi trwy ei yrru'n wallgof. Dywed hefyd iddo yrru byddin o 50,000 i ymosod ar oracl [[Amun]] yn [[Siwa]], ond i'r fyddin ddiflannu mewn storm dywod enfawr ar y ffordd.
 
Tra'r oedd Cambyses yn ymgyrchu, gwrthryfelodd ei frawd Smerdis (Bardiya) yn ei erbyn. Ceir yr hanes gan [[Darius I, brenin Persia|Darius]], a ddaeth i'r orsedd o ganlyniad i'r digwyddiadau hyn. Dywed Darius i Cambyses gychwyn yn ôl i wrthwynebu Smerdis, ond iddo ei ladd ei hun pan welodd nad oedd gobaith iddo ennill. Dywed Herodotus iddo farw mewn damwain. Claddwyd ef yn [[Pasargadae]].
Llinell 9:
{| border=2 align="center" cellpadding=5
|-
|width="30%" align="center"|'''Rhagflaenydd :<br />'''[[Cyrus Fawr]]
|width="40%" align="center"|'''[[Ymerodraeth Persia|Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia]]<br />Cambyses II'''
|width="30%" align="center"|'''Olynydd :<br />'''[[Smerdis, brenin Persia|Smerdis]]
|}
 
 
 
[[Categori:Marwolaethau 522 CC]]
Llinell 30 ⟶ 28:
[[es:Cambises II]]
[[et:Kambyses II]]
[[fa:کمبوجیه دوم]]
[[fi:Kambyses II]]
[[fr:Cambyse II]]
Llinell 36 ⟶ 34:
[[he:כנבוזי השני]]
[[hr:Kambiz II.]]
[[hu:II. Kambüszész perzsa király]]
[[it:Cambise II di Persia]]
[[ja:カンビュセス2世]]