Glo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 29:
Yn ei lyfr “Pembrokeshire” mae Brian John yn ysgrifennu: ''One of the earliest areas which shipped out coal and culm was the Landshipping area''. Glo mân felly yw cwlwm. Cefais air â chyfaill sydd dros ei bedwar ugain oed ac a fagwyd ar fferm yn ardal Arberth ac roedd yn hen gyfarwydd a’r gair a chofiai’n dda amdano fel tanwydd pwysig. Y drefn oedd cymryd tunnell neu ddwy ar y tro o gwlwm, clai a dŵr a cherdded ceffyl drwyddo yn ôl ac ymlaen i sicrhau cymysgu llwyr. Defnyddid hwn i gadw’r tân yn fyw dros nos. Ni fyddai’r tân byth yn diffodd a byddai’r gegin yn gynnes peth cyntaf yn y bore. Ni fyddai’r tanwydd yma yn creu digon o wres at goginio a rhaid fyddai defnyddio glo o ansawdd da yn ystod y dydd. Roedd cyfaill arall, eto yn oedranus, ac o ardal glofaol Castellnedd yn cofio yr un drefn, ond ar llai o raddfa. Arferai ei gymysgu a llaw ac yn gwneud peli i’w roi ar y tân i’w gadw’n fyw dros nos. Cofiai ei fod yn waith anifyr a brwnt iawn.
<ref>John Lloyd Jones, Pelcombe yn Bwletin Llên Natur rhifyn 39[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn39.pdf]</ref>
 
Yn ystod fy ngwyliau Pasg yn fferm fy ewythr pan oeddwn tua tair ar ddeg fy ngwaith ar ddiwrnod gwlyb fyddai gwneud ''pele mond'' gan mai dyna beth oeddent yn cael ei galw yn Shir Gâr.
Cymysgu llwch y glo a siment ar llawr y 'cartws' oedd hyn, ac yna rhoi hen bapurau newydd ar y llawr a gorwedd y pele arnynt. Ar ôl gorchuddio tua tri neu bedwar llathed tua pedwar modfedd o drwch, rhedeg blaen y rhaw trwyddo i wneud sgwarie bach tua chwe modfedd sgwar. Nid fy hoff waith o bell ffordd<ref>Bryan Jones, Llangamarch, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 52</ref>
*glo ager: ''steam-coal''. 1864.
*glo bôls = glo pelau. (Ar lafar yng Ngheredigion)