Maredudd ap Bleddyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dyddiad Maen Cymro
dolen
Llinell 7:
Dihangodd Maredudd o'i garchar yn [[1107]], ond ni allodd adennill grym. Yn [[1113]] ef oedd [[penteulu]] ei nai, [[Owain ap Cadwgan]], oedd wedi dod yn dywysog Powys. Fel penteulu, gallodd Maredudd gymeryd Madog ap Rhiryd, oedd wedi lladd dau o'i frodyr, yn garcharor, a'i yrru i Owain, a'i dallodd fel dial am ladd ei dad.
 
Yn 1114, ymosododd y brenin Harri I ar Gymru. Ceisiodd Maredudd delerau heddwch ag ef, tra cyngheiriodd Owain a [[Gruffudd ap Cynan]], brenin Gwynedd. Pan laddwyd Owain yn 1116, dechreuodd Maredudd ennill grym; a'r flwyddyn honno cofnodir iddo yrru 400 o wŷr i gynorthwyo [[Hywel ab Ithel]], arglwydd [[Rhos]] a [[Rhufoniog]] dan nawdd Powys, yn erbyn ei gymdogion, meibion Owain ab Edwin o [[Dyffryn Clwyd|Ddyffryn Clwyd]]. Enillodd Hywel fuddugoliaeth ym [[Brwydr Maes Maen Cymro|Mrwydr Maes Maen Cymro]], ger [[Rhuthun]], yn 1118 ond clwyfwyd ef, a bu farw chwech wythnos yn ddiweddarach. Cipiwyd ei diroedd i Wynedd gan feibion Gruffudd ap Cynan, ac ni allai Maredudd eu hatal.
 
Yn 1121 ymosododd Maredudd ar [[Swydd Gaer]], ac ymosododd y brenin ar Bowys. Enciliodd Maredudd i [[Eryri]] a gofynnodd am gymorth Gruffudd ap Cynan. Nid oedd Gruffudd yn barod i fynd i ryfel a'r brenin er mwyn Maredudd, a bu raid i Maredudd dalu dirwy o 10,000 o wartheg. Roedd Gwynedd yn parhau i fygwth Powys, gyda meibion Gruffudd ap Cynan, [[Cadwallon ap Gruffudd|Cadwallon]] ac [[Owain Gwynedd]] yn cipio rhannau o'r deyrnas yn 1124. Lladdwyd Cadwallon mewn brwydr ger [[Llangollen]] yn 1132, a bu llai o fygythiad o du Gwynedd am gyfnod. Ni chymerodd Maredudd ei hun ran yn y frwydr yma, a bu farw yr un flwyddyn. Olynwyd ef gan ei fab [[Madog ap Maredudd]].