Ysgyfarnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
testun gan Twm
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 10:
Cyflwynwyd yr [[ysgyfarnog fynydd]] (''L.timidus'') o'r [[Alban]] i ucheldiroedd [[Eryri]] a'r Canolbarth yn yr [[19g]]. Mae'n ddigon posib bod nifer fechan o'u disgynyddion yn dal ar y [[Carneddau]] hyd heddiw.
 
==Anecdotau==
Dyma hanesyn bach wedi ei ysgrifennu mewn iaith byw a llafar Sir Fôn tua 2010:
:Cerddad oeddwn i ar hyd llwybr cyhoeddus yn ardal Bodorgan ‘ma pan welais i sgwarnog yn isda ar ei din ar y cae – golygfa nid anamal yn y cae arbennig yma. Pen dim dyma ‘na sgwarnog arall yn rhedag ati, a dyma’r ddwy’n dechra rhedag ar ôl eu gilydd yn igam ogam nes iddy nhw fynd o’r golwg dros a thu ôl i glawdd pridd isal. Es yn fy mlaen at y giat mochyn ac aros yno i sbio o’nghwmpas. Yn sydyn, sylwi bod un sgwarnog reit wrth fy ymyl – o fewn dwy neu dair llath i mi - yn symud, stopio, symud, stopio. Wedyn daeth reit at fy nrhaed - o’n i’n meddwl ei bod am fynd heibio fi, ond symyd i ffwrdd, yn rhadlon nath hi nes i mi golli ei gweld am iddi fynd i ganol llwyni o eithin. Toedd yna ddim tywysog yn ei hela a toedd ‘na ddim hogan ddel hefo sgert laes wrth fy ochr i chwaith! [Cyfeiriad at [[Melangell|Felangell]] a [[Brochfael Ysgythrog]]]. Es led cae yn fy mlaen, bron at yr ail giat mochyn, sy’n arwain at y trydydd cae, lle dw i wedi gweld sgwarnogod yno o’r blaen hefyd. Gwrando oeddwn i ar [[telor yr hesg|delor yr hesg]], [[troellwr bach]] (medru ei glwed o pan mae o’n canu’n weddol agos i mi) a [[bras y cyrs]] yn canu, a sbio ar ffau pry cop. Roedd y pry cop wedi medru plygu deilen [[gellesgen|gellesg]] fel stwffwl ben-ucha’n isa, a’i ffau fel cwt Nissan yn y plygiad. Myn dian i, sylweddoli bod y sgwarnog wrth fy yml i eto – o fewn llathan deu ddwy i mi! Symyd, stopio a wedyn symyd yn rhadlon oddi wrtha i i’r brwyn a’r tyfiant. Os gwn i pa mor aml mae hyn yn digwydd a faint arall sydd wedi cael yr un profiad? Ai ar ôl i rhywun gael profiad fel hyn y daeth chwedl [[Pennant Melangell]] i fodolaeth tybed?<ref>Y llun a’r hanes gan Wil Williams ym Mwletin Llên Natur rhifyn 40[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn41.pdf]</ref>
 
==Gweler hefyd==