Twmpath (dawns): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1:
Digwyddiad ble mae pobl yn dod ynghyd i ddawnsio gwerin yw '''twmpath dawns''' neu '''twmpath dawnsio'''. Mae'r gair 'twmpath' yn golygu 'cynulliad o bobl', ac yn hanesyddol mae wedi'i ddefnyddio hefyd i gyfeirio at achlysuron pan fyddai pobl yn dod at ei gilydd i chwarae gemau, mewn 'twmpath chwarae'.<ref>{{Cite web|url=http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html|title='Twmpath' yn Geiriadur Prifysgol Cymru|date=1 Mawrth 2019|access-date=|website=Geiriadur Prifysgol Cymru|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r gair 'twmpath' yn cael ei ystyried yn gyfystyr â thwmpath dawns.
 
Mae twmpath fel arfer yn ddigwyddiad anffurfiol ac ni fydd y bobl sy'n cymryd rhan wedi ymarfer o flaen llaw nac yn brofiadol fel dawnswyr gwerin. Bydd y twmpath yn cynnwys nifer o ddawnsfeydd unigol sy'n cael eu dysgu ar y pryd. Yn ystod y noson, mae rhyddid i ddawnswyr adael neu ymuno â dawnsfeydd unigol fel y mynnant, yn hytrach na bod disgwyl iddynt gymryd rhan yn yr holl ddawnsfeydd o'r dechrau i'r diwedd.