Twmpath (dawns): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 3:
Mae twmpath fel arfer yn ddigwyddiad anffurfiol ac ni fydd y bobl sy'n cymryd rhan wedi ymarfer o flaen llaw nac yn brofiadol fel dawnswyr gwerin. Bydd y twmpath yn cynnwys nifer o ddawnsfeydd unigol sy'n cael eu dysgu ar y pryd. Yn ystod y noson, mae rhyddid i ddawnswyr adael neu ymuno â dawnsfeydd unigol fel y mynnant, yn hytrach na bod disgwyl iddynt gymryd rhan yn yr holl ddawnsfeydd o'r dechrau i'r diwedd.
 
Bydd person neu bersonau penodol yn cael y dasg o 'alw' y twmpath, sef cyflwyno'r ddawns i'r rhai sy'n bwriadu cymryd rhan ynddi ac yna eu'u helpu i gyflawni'r ddawns i gyfeiliant sydd naill ai'n fyw neu wedi'i recordio.
 
Mae twmpath dawns yn aml yn cael ei gynnal i ddathlu Gŵyl Dewi neu fel rhan o ddathliad priodas.