Ysgyfarnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 6:
==Cymru: coel, llên a phrofiad==
*Ceir cyfeiriadau niferus mewn chwedlau, e.e. yn [[Chwedl Taliesin]] trodd Gwion Bach yn ysgyfarnog i ddianc rhag [[Ceridwen]], a chafodd ysgyfarnog loches rhag yr helfa ym mhlygion gwisg Melangell. Cofnododd [[Gerallt Gymro]], yn 1188, y goel y gallasai gwrach droi'n ysgyfarnog i ddwyn llaeth y gwartheg a cheir amryw fersiwn leol ohoni o'r [[19g]]. Dehonglid y modd y rhedai ysgyfarnog i olygu lwc, anlwc, rhybudd neu farwolaeth ac o'i gweld dylsai gwraig feichiog orchuddio ei cheg rhag i'w phlentyn gael ei eni â thaflod y geg yn hollt.
 
       
*Arferid ei hela â [[milgi|milgwn]] neu ei dal mewn “rhwyd gae” i wneud stiw (neu gawl) blasus. Enwau eraill arni yw: ceinach, pry. Cyfeirir at 'hela'r pry' yn y gân werin “Bonheddwr Mawr o'r Bala”.
 
       
*Cyflwynwyd yr [[ysgyfarnog fynydd]] (''L.timidus'') o'r [[Alban]] i ucheldiroedd [[Eryri]] a'r Canolbarth yn yr [[19g]]. Mae'n ddigon posib bod nifer fechan o'u disgynyddion yn dal ar y [[Carneddau]] hyd heddiw.