Ysgyfarnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 13:
*Dyma hanesyn bach wedi ei ysgrifennu mewn iaith byw a llafar Sir Fôn tua 2010:
:Cerddad oeddwn i ar hyd llwybr cyhoeddus yn ardal Bodorgan ‘ma pan welais i sgwarnog yn isda ar ei din ar y cae – golygfa nid anamal yn y cae arbennig yma. Pen dim dyma ‘na sgwarnog arall yn rhedag ati, a dyma’r ddwy’n dechra rhedag ar ôl eu gilydd yn igam ogam nes iddy nhw fynd o’r golwg dros a thu ôl i glawdd pridd isal. Es yn fy mlaen at y giat mochyn ac aros yno i sbio o’nghwmpas. Yn sydyn, sylwi bod un sgwarnog reit wrth fy ymyl – o fewn dwy neu dair llath i mi - yn symud, stopio, symud, stopio. Wedyn daeth reit at fy nrhaed - o’n i’n meddwl ei bod am fynd heibio fi, ond symyd i ffwrdd, yn rhadlon nath hi nes i mi golli ei gweld am iddi fynd i ganol llwyni o eithin. Toedd yna ddim tywysog yn ei hela a toedd ‘na ddim hogan ddel hefo sgert laes wrth fy ochr i chwaith! [Cyfeiriad at [[Melangell|Felangell]] a [[Brochfael Ysgythrog]]]. Es led cae yn fy mlaen, bron at yr ail giat mochyn, sy’n arwain at y trydydd cae, lle dw i wedi gweld sgwarnogod yno o’r blaen hefyd. Gwrando oeddwn i ar [[telor yr hesg|delor yr hesg]], [[troellwr bach]] (medru ei glwed o pan mae o’n canu’n weddol agos i mi) a [[bras y cyrs]] yn canu, a sbio ar ffau pry cop. Roedd y pry cop wedi medru plygu deilen [[gellesgen|gellesg]] fel stwffwl ben-ucha’n isa, a’i ffau fel cwt Nissan yn y plygiad. Myn dian i, sylweddoli bod y sgwarnog wrth fy yml i eto – o fewn llathan deu ddwy i mi! Symyd, stopio a wedyn symyd yn rhadlon oddi wrtha i i’r brwyn a’r tyfiant. Os gwn i pa mor aml mae hyn yn digwydd a faint arall sydd wedi cael yr un profiad? Ai ar ôl i rhywun gael profiad fel hyn y daeth chwedl [[Pennant Melangell]] i fodolaeth tybed?<ref>Y llun a’r hanes gan Wil Williams ym Mwletin Llên Natur rhifyn 40[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn41.pdf]</ref>
 
==Llenyddiaeth==
Cerdd eiconig R. Williams- Parry i’r sgwarnog
;Y Peilon
:Tybiais pan welais giang o hogiau iach
:Yn plannu’r peilon ar y drum ddi-drwst
:Na welwn mwy mo’r ysgyfarnog fach,
:Y brid sydd rhwng Llanllechid a Llanrwst.
:Pa fodd y gallai blwyfo fel o’r blaen
:Yn yr un cwmwd á’r ysgerbwd gwyn?
:A rhoi ei gorff i orffwys ar y waun
:Dan yr un wybren a’i asennau syn?
:Ba sentimentaleiddiwch! Heddiw’r pnawn,
:O’r eithin wrth ei fon fe wibiodd pry’
:Ar garlam igam-ogam hyd y mawn,
:Ac wele, nid oedd undim ond lle bu;
:Fel petai’r llymbar llonydd yn y gwellt
:Wedi rhyddhau o’i afal un o’i fellt
R. Williams-Parry
 
==Gweler hefyd==