Maldwyn (etholaeth Senedd Cymru): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
delete copyvio (http://news.bbc.co.uk/1/shared/bsp/hi/vote2003/welsh_lang_assembly/html/410.stm) inadvertantly copied across from Maldwyn (etholaeth seneddol)
Llinell 11:
}}
Etholaeth '''Maldwyn''' yw'r enw ar [[etholaeth Cynulliad]] yn [[rhanbarth etholiadol Cynulliad]] [[Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru (Cynulliad Cenedlaethol)|Canolbarth a Gorllewin Cymru]]. [[Mick Bates]] ([[Y Democratiaid Rhyddfrydol]]) yw'r Aelod Cynulliad.
 
Y Ceidwadwr [[Glyn Davies]], a ddaeth yn Aelod y Cynulliad trwy’r [[Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru (Cynulliad Cenedlaethol)|rhestr rhanbarthol]], a ddaeth yn ail yma yn etholiad y Cynulliad ym [[1999]] gyda 23 y cant o’r bleidlais.
 
==Ffiniau==
 
Ni cheir llawer o seddi Cymreig, os o gwbl, sy’n fwy gwledig na [[Sir Drefaldwyn|Maldwyn]]. Mae ffurflenni cyfrifiad wedi dangos bod mwy o’r boblogaeth weithiol yn cael eu cyflogi mewn [[amaethyddiaeth]] yma nag mewn unrhyw ran arall o [[Prydain|Brydain]]. Mae’r rhan fwyaf o’r tir yn ffrwythlon a bryniog, gyda’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn siarad [[Saesneg]], er bod [[Cymraeg]] yn fwy cyffredin tua’r gorllewin, sy’n ymestyn i fryniau [[Elenydd]].
 
Prif drefi’r sir yw’r [[Trallwng]] a’r [[Drenewydd]]. Arferai’r Drenewydd fod yn bencadlys [[Bwrdd Datblygu Cymru Wledig]] ond ers i’r corff hwnnw gael ei amsugno gan [[Awdurdod Datblygu Cymru]] mae’r ardal wedi gweld amrywiaeth eang o ddatblygiadau diwydiannol. Ond mae amaethyddiaeth yn dal i fod yn ganolbwynt i’r economi leol, a chafodd ffermydd yn y sedd hon eu heffeithio’n arw gan glwy’r traed a’r genau. Er bod yr ardal wedi cael tipyn o fuddsoddiad o’r tu allan dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf mae’r cyhoeddiad diweddar am golli 250 o swyddi yng ngwaith modurol KTH yn [[Llanidloes]] yn dipyn o ergyd.
 
== Aelodau Cynulliad ==