Llanw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 1:
Y '''llanw''' yw ymchwydd a mewnlifiad rheolaidd lefel dyfroedd y [[môr]] mewn canlyniad i rym atyniad [[disgyrchiant]] rhwng y [[ddaear]], y [[lleuad]] a'r [[haul]]. Mae newidiadau mewn lleoliad cymharol y tri chorff hyn yn achosi amrywiad yng ngraddfa'r llanw. Mae'r rhan fwyaf o lefydd yn y byd yn cael llanw dwywaith y dydd ond gan fod 'diwrnod llanw' yn parhau am 24 awr 5 munud nid ydynt yn digwydd ar yr un amser bob dydd o'r flwyddyn a chynhyrchir gwybodlenni arbennig yn lleol i ddangos hynny.
 
==Y Llanw==
Mae hogia ifanc o Aberdaron yn cytuno nad oes yna'r fath beth â llanw isel.
:llanw - pan mae'r môr i mewn,
:llenwi - y broses o'r llanw yn dod i mewn. ( 'Mae'n llenwi'n gyflym hogia‘)
pen llanw - high tide ' Mae yna lanw uchal wythnos nesa': cyfeira hyn at 'spring tide pan mae'r môr yn uwch na'r arfer rhyw ddwywaith dair y flwyddyn.
gorllan - pen llanw.
llinnell gorllan - 'high tide mark', y llinell a welir ar y creigiau sy'n dangos pa mor uchel y mae'r môr yn codi. trai - y môr allan 'Mae hi'n treio' - y broses o'r môr yn mynd allan (ebbing)
distyll - y trai pella. Dywed pysgotwyr 'awn ni allan ar y distyll' ( y pysgod yn dwad i mewn efo'r llanw) h.y. fel mae'r môr yn troi ac yn dechra llenwi eto
Mae trai mawr yn syrthio i'r un categori a llanw uchal sef y pellter mwya ar 'Spring tide' e.e. ar drai mawr mae'n bosib gweld olion yr hen goedwig ar draeth Porth Neigwl. Efallai fod yna erbyn heddiw ddefnydd o 'ben trai' yn hytrach na distyll, ac o ddewis, mae hynny yn well na llanw isel.
 
<gallery>