Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Morgrugyn"

Lleihawyd o 15 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) iOS app edit
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) iOS app edit
 
==Llên gwerin==
AYm hithau bellach yn fismis Awst mi allwn ni ddisgwlddisgwyl gweld y sioe ryfeddol honno o forgrug asgellog yn codi o’u nythod i hedfan ar eu dawns garwriaethol. Mae’r olygfa hon yn un o ryfeddodau byd natur, a dim ond dan amodau penodol iawn y bydd yn digwydd – ar b’nawnbrynhawn tawel a phoeth pan fydd lleithder yr awyr yn weddol uchel. Mi fydd gan pob un o’r 42 o wahanol rywogaethau o forgrug yng [[Gwledydd Prydain|ngwledydd Prydain]] eu hamodau eu hunain, o ran tymheredd a lleithder, cyn y gwnân nhw heidio fel hyn. Mae hyd yn oed 1⁄2° o wres yn gwneud gwahaniaeth – â’r rheswm pam, ydi, i sicrhau, yn un peth, mai dim ond y rhywogaeth honno fydd ar ei hediad – i osgoi mynd ar draws rhai eraill. Rheswm arall ydi i sicrhau bod morgrug gwryw a brenhinesau o wahanol nythod, ond o’r un math, yn dod at ei gilydd ar yr adeg iawn – a hynny’n gymylau trwchus o forgrug o nythod dros ardal eang. Mae raid i’w cyd amseru nhw fod yn berffaith, am mai un cyfle sydd yna yn y flwyddyn – i gael y dyddiad, yr awr, a’r amodau i’r dim. I ni, pan fydd heidiau o forgrug ar eu hediad, mi fydd yn arwydd o dywydd braf, ond bod yna hefyd siawns dda o derfysg cyn bo hir.
Sioe fawr y Morgrug
A hithau bellach yn fis Awst mi allwn ni ddisgwl gweld y sioe ryfeddol honno o forgrug asgellog yn codi o’u nythod i hedfan ar eu dawns garwriaethol. Mae’r olygfa hon yn un o ryfeddodau byd natur, a dim ond dan amodau penodol iawn y bydd yn digwydd – ar b’nawn tawel a phoeth pan fydd lleithder yr awyr yn weddol uchel. Mi fydd gan pob un o’r 42 o wahanol rywogaethau o forgrug yng ngwledydd Prydain eu hamodau eu hunain, o ran tymheredd a lleithder, cyn y gwnân nhw heidio fel hyn. Mae hyd yn oed 1⁄2° o wres yn gwneud gwahaniaeth – â’r rheswm pam, ydi, i sicrhau, yn un peth, mai dim ond y rhywogaeth honno fydd ar ei hediad – i osgoi mynd ar draws rhai eraill. Rheswm arall ydi i sicrhau bod morgrug gwryw a brenhinesau o wahanol nythod, ond o’r un math, yn dod at ei gilydd ar yr adeg iawn – a hynny’n gymylau trwchus o forgrug o nythod dros ardal eang. Mae raid i’w cyd amseru nhw fod yn berffaith, am mai un cyfle sydd yna yn y flwyddyn – i gael y dyddiad, yr awr, a’r amodau i’r dim. I ni, pan fydd heidiau o forgrug ar eu hediad, mi fydd yn arwydd o dywydd braf, ond bod yna hefyd siawns dda o derfysg cyn bo hir.
Mae trefn dorfol y nythfa, efo’i chyfundrefn gymdeithasol gyd-ddibynnol ac i gyd yn gynnyrch brenhines, sy’n fam i’r nythfa gyfan, yn hanfodol i lwyddiant y cyfan. Mi roddodd cydweithredu fel hyn fantais aruthrol i’r morgrug i reoli ag egsploetio’u cynefin ac i amddiffyn eu hunain, neu’r nyth yn hytrach, rhag gelynion. Fel y dywedodd rywun: ‘go brin y llwydda un morgrugyn i ’neud llawer, ond mi fedr cant godi twmpath a miliwn godi mynydd’ (o bridd).<ref>O sgript rhaglen Galwad Cynnar, Twm Elias (cyhoeddwyd gyda chaniatad Radio Cymru)</ref>
 
6,927

golygiad