Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwanwyn"

Ychwanegwyd 902 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
pellach
(parhau)
(pellach)
[[Delwedd: Zawilec_gajowy_cm02.jpg |bawd|de|[[Blodyn y gwynt|Blodau'r gwynt]] (''Anemone nemorosa'') ger Radziejowice]]
{{Tymhorau}}
[[Delwedd:Galanthus nivalis close-up aka.jpg|bawd|Lili wen fach neu eirlys - un o flodau cynta'r gwanwyn yng Nghymru.]]
 
[[Delwedd: Zawilec_gajowy_cm02.jpg |bawd|de|[[Blodyn y gwynt|Blodau'r gwynt]] (''Anemone nemorosa'') ger Radziejowice.]]
 
Cyfnod o amser, neu 'dymor', yw'r '''gwanwyn''' rhwng [[Gaeaf|y gaeaf]] a'r [[haf]]. Yn ôl y calendr Gwyddelig, mis [[Chwefror]], mis [[Mawrth (mis)|Mawrth]] a mis [[Ebrill]] ydyw. Yn ôl y meterorlegydd, fodd bynnag, mae pob tymor yn dri mis o ran hyd, gyda'r haf yn cynnwys y tri mis cynhesaf, y gaeaf y tri mis oeraf a'r gwanwyn (fel yr hydref) yn y canol rhwng y ddau. Mae hyn yn golygu fod y tymhorau'n gwahaniaethu o le i le e.e. yn hemisffer y de mae'r gwanwyn ym Medi, Hydref a Thachwedd; maent ar yr un pryd yn nodi'r tri mis canlynol fel cyfnod ein gwanwyn ni yma yng Nghymru: Mawrth, Ebrill a Mai.
Hen ŵyl Geltaidd yw [[Imbolc]], sydd ar y cyntaf neu'r ail o fis Chwefror, sef dechrau'r Gwanwyn, hyd at ei diwedd ar [[Calan Mai|Galan Mai]] (neu 'Beltane').
 
==Symbol==
Defnyddir y gwanwyn fel symbol pwerus o ddeffroad, boed hynny yn ddeffroad natur, megis [[awdl]] arobryn 'Y Gwanwyn' gan [[Dic Jones]] neu'n ddefroad gwleidyddol a ieithyddol. Mae'n symbol o gynnwrf rhywiol hefyd ac o [[glasoed|lasoed]] 'Gwanwyn y dyddiau gwynach', chwedl [[Alan Llwyd]].<ref> Rhwng Pen Llŷn a Phenllyn' gan Alan Llwyd, Gwasg Christopher Davies, 1796</ref>
 
==Llenyddiaeth==
* 'Ond lle bu'r arad ar y ffridd / Yn rhwygo'r gwanwyn pêr o'r pridd.' - [[R Williams-Parry]]
* 'Mi wellaf pan ddaw'r gwanwyn...' [[T Rowland Hughes]]
 
*Englyn i'r gwanwyn gan y bardd dall o [[Rhostryfan|Rostryfan]],
:Nid yw'r Gaea'n dragywydd - daw yr haf
:wedi'r holl ystormydd
:Am hyn y rhodiwn yn rhydd
:Yn llaw Duw mae'r holl dywydd.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{commonscat|Spring}}