Gwrth-Semitiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ms:Antisemitisme
tynnu deunydd dadleuol - gofynwyd am ffynonellau amser maith....; ailsgwennu rhan o adran
Llinell 17:
Cyrhaeddodd Gwrth-Semitiaeth Fodern ei phenllanw ar ffurf [[Natsïaeth]] [[yr Almaen]], pan welwyd ymgais i lofruddio'r cyfan o boblogaeth [[Iddew]]ig [[Ewrop]].
 
Yn hanesyddol mae'r gwledydd [[Islam]]ig ac Arabaidd wedi bod yn fwy goddefol tuag at yr Iddewon na'r gwledydd Ewropeaidd Cristnogol. Yn yr Oesoedd Canol, pan erlidid Iddewon ar draws Ewrop, roedd cymunedau o Iddewon - a Christnogion hefyd - yn byw mewn dinasoedd fel [[Jerusalem]] a [[Damascus]] ochr yn ochr â'r Mwslimiaid. Yn ddiweddar mae rhai gwleidyddion, fel [[Mahmoud Ahmadinejad]], Arlywydd [[Iran]], wedi cael eu cyhuddo o wrth-Semitiaeth.
Mae rhai'n honni erbyn hyn bod trydedd ffurf ar wrth-Semitiaeth wedi datblygu, sef Gwrth-Semitiaeth Wleidyddol, wedi'i seilio ar wrthwynebiad i Wladwriaeth [[Israel]].{{angen ffynhonnell}} Mae'r honiad hwn wedi deillio o bryder nad yw rhai o wrthwynebwyr [[Israel]] yn gwahaniaethu rhwng anghytuno â pholisïau llywodraeth [[Israel]] a lladd ar [[Iddewon]] yn gyffredinol. Mae mudiad [[Iddew]]ig y Gynghrair Wrth-Ddifenwi wedi tynnu sylw at y syniadau negyddol iawn am [[Iddewon]] fel pobl sydd i'w cael yn y gwledydd Arabaidd dan orchudd beirniadaeth wleidyddol i bolisïau llywodraeth [[Israel]].{{angen ffynhonnell}} Ond yn hanesyddol mae'r gwledydd [[Islam]]ig ac Arabaidd wedi bod yn llawer mwy goddefol tuag at yr Iddewon na'r gwledydd Ewropeaidd Cristnogol. Ceir Iddewon a mudiadau Iddewig sy'n gwrthwynebu gwladwriaeth Israel hefyd, e.e. y [[Neturei Karta]].
 
Er bod Gwrth-Semitiaeth weithiau wedi bod yn dreisgar iawn, yn enwedig yn Nwyrain [[Ewrop]], dim ond un enghraifft o drais gwrth-Iddewig difrifol sydd wedi'i chofnodi yng [[Cymru|Nghymru]]. Bu trefysg gwrth-Iddewig yn [[Tredegar|Nhredegar]] yn [[1911]], pan ymosododd torf ar siopau [[Iddewiaeth yng Nghymru|Iddewon y dref]] gan ganu emynau [[Cristnogaeth|Cristnogol]]. Er nad anafwyd neb yn gorfforol, difrodwyd siopau ac eiddo eraill yn [[Tredegar|Nhredegar]], [[Glyn Ebwy]], [[Cwm]] a [[Bargoed]].
 
==Gwrth-Semitiaeth yn y byd Mwslemaidd==
Honnir fod rhai Mwslemiaid yn wrth-Semitaidd.{{angen ffynhonnell}} Yn ôl un o'r [[hadith]]au:
 
<blockquote>
Ni ddaw Dydd y Farn nes i'r Mwslemiaid ymladd yr Iddewon a'u lladd, nes i'r Iddewon guddio tu ôl i gerrig a choed, a bydd y coed a'r cerrig yn dweud "O Mwslim, gwasanaethwr ffyddlon Allah, mae yna Iddew tu ôl i fi, dere i'w ladd." Bydd pob coeden yn dweud hyn heblaw am goeden y Gharqad sydd yn goedon yr Iddewon.{{angen ffynhonnell}}
</blockquote>
 
Cred rhai fod Duw yn casáu'r Iddewon "trahaus", "barus" a "drygionus".{{angen ffynhonnell}} Ai nifer o arweinwyr Islamaidd yn y Dwyrain Canol mor bell â a dweud bod Duw yn gweithio yng nghalon [[Hitler]] pan laddodd 6,000,000 o Iddewon yn yr [[Holocaust]].{{angen ffynhonnell}} Edrychant ymlaen at yr Holocaust nesaf pan fydd y Mwslemiaid yn lladd yr Iddewon.{{angen ffynhonnell}}
 
== Gweler hefyd ==