Gwrth-Semitiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tynnu deunydd dadleuol - gofynwyd am ffynonellau amser maith....; ailsgwennu rhan o adran
darlun
Llinell 1:
{{gweler|Semitiaeth|Seioniaeth}}
 
Casineb at [[Iddew]]on neu [[rhagfarn|ragfarn]] yn eu herbyn yw '''Gwrth-Semitiaeth'''. Yn hanesyddol mae dwy brif ffurf ar wrth-Semitiaeth wedi bod: Gwrth-Semitiaeth Ganoloesol (neu Grefyddol), a Gwrth-Semitiaeth Fodern (neu Hiliol).
 
== Gwrth-Semitiaeth Ganoloesol ==
[[Delwedd:BritLibCottonNeroD1Fol183vPersecutedJews.jpg|250px|bawd|Erlid Iddewon yn y Lloegr ganoloesol. Darlun o ''Groniclau Offa'' gan [[Matthew Paris]].]]
 
Roedd hon wedi'i seilio ar y gred mai cymuned grefyddol oedd wedi mynd ar gyfeiliorn oedd yr [[Iddewon]]. Yn waeth na hynny, yng ngolwg gwrth-Semitiaid yr Oesoedd Canol, roedd yr [[Iddewon]] wedi dewis crwydro oddi ar y llwybr cywir, gan wrthod [[Iesu Grist]] fel Meseia, er ei fod e'n hanu o'u cenedl nhw. Ceir engrhraifft ddiddorol iawn o'r meddylfryd hwn yn y [[Cymraeg|Gymraeg]] yn llyfr dychanol [[Ellis Wynne]], ''Gweledigaethau y Bardd Cwsg'', a gyhoeddwyd yn [[1703]]. Yn hwnnw, mae'r prif gymeriad yn cael ei dywys i "Eglwys yr Iddewon" lle mae'r addolwyr "yn methu cael y ffordd i ddianc o'r Ddinas Ddienydd, er bod sbectol lwyd-olau ganddynt, am fod rhyw huchen wrth ysbïo yn tyfu dros eu llygaid, eisiau eu hiro â'r gwerthfawr enaint, ffydd."