Morgrugyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 88:
Mae morgrug, am eu bod yn gweithio mor drefnus, diwyd a diflino, wedi ennyn edmygedd pobl ar draws y byd ac yn batrwm o weithgarwch cynhyrchiol inni ei efelychu. Yn Llyfr y Diarhebion yn y Beibl ceir yr adnod: “Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth”<ref>Diarhebion VII (7)</ref>. Ym Moroco, ystyrid bod bwyta nifer o forgrug yn fodd i gael gwared o ddiogi. Yn Ewrop esgorodd y ddelwedd hon o’r morgrug gweithgar ar sawl dameg neu foeswers. Y mwyaf adnabyddus yw [[Esop|Chwedlau Æsop]]. Caethwas (ond yn un breintiedig) yng [[Groeg|Ngroeg]] yn y 6ed ganrif CC oedd Æsop a chyhoeddwyd sawl fersiwn Gymraeg o rai ohonynt dros y ddwy ganrif ddiwethaf.
*'''Y morgrugyn a’r ceiliog rhedyn''' – yn cyferbynu’r ceiliog rhedyn fu’n gwastraffu ei amser yn canu drwy’r haf â’r morgrugyn fu’n hel storfa o fwyd at y gaeaf (5).
*'''Y morgrugyn ymrostgar''' – mae’r un bychan ymhlith rhai llai yn gweld ei hun yn fwy na phawb, ond bychan iawn ydi o mewn gwirionedd pan geisith ym+ros&o ymysg rhai mwy (6).
*'''Y morgrugyn a’r golomen''' – stori am forgrugyn a ddisgynodd i +ynnonffynnon â’r golomen yn gollwng deileni’r dŵr i’w achub. Talwyd y pwyth yn ôl pan frathodd y morgrugyn sawdl dŷn oedd ar *n dal y golomen, gan ei galluogi i ddianc. Y wers ydy bod yr un cymwynas yn teilyngu y llall (7).
*'''Gwythyr a’r morgrugMaemorgrug''' Mae gan forgrug le anrhydeddus yn y chwedlau Cymreig hefyd. Yn stori Culhwch ac Olwen (8), un o’rtasgau amhosib a osodwyd gan Ysbadadden bencawr i Culhwch eu cy"awni cyn y gallai ennill llaw Olwen mewn priodas, oedd adfer naw llond llestr o had llin a heuwyd mewn llain arbennig o dir. Wrth lwc, pan achubodd un o gynorthwyr Culhwch, Gwythyr fab Greidawl, dwmpath morgrug rhag cael ei losgi gan dân cytunodd y morgrug diolchgar i hel yr hadau o’r pridd ar ei ran. Dyna wnaethpwyd ac roedd Gwythyr yn falch iawn pan gyrhaeddodd morgrugyn bach clo+ efo’r hedyn ola’ u
 
==Enwau==