Morgrugyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 93:
 
==Enwau==
Yr enw gwyddonol ar ein morgrug coch cyffredin ni yw ''Myrmica rubra'' – sylwch ar yr elfen ‘myr’ ynddo ac ystyriwch hefyd bod y gair morgrug yn tarddu o ‘mor’ a ‘crug’ (3) – y crug yn golygu twmpath neu fryncyn fel y gwelwn mewn enwau lleoedd megis Crug y bar, Crughywel. Cyfeirio at y twmpath neu’r nythfa wna’r enw morgrug felly, ac mae hynny’n rhoi’r argraff i mi bod ein cyn deidiau ni, yma yng Nghymru, yn ystyried mai y nythfa oedd bwysicaf yn hytrach na’r morgrugyn ar ben ei hun.
Mae ’nayna enwau ar wahanol fathau – morgrug coch (mewn gerddi a chloddiau pridd), morgrug duon (yn nythu dan balmant yr ardd), morgrug melyn neu forgrug y maes (yn creu twmpathau) a morgrug y coed (sy’n fwy o faint, ac i’w cael dan goed). Mewn rhai ardaloedd mi gewch chi enwau
eraill ar forgrug. Mawion, neu mowion yn yr hen Sir Ddinbych, tra, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, arferid yr enwau mŷr, myrion (unigol: myrionen) yn nwyrain Morgannwg. Mi gewch chi hefyd morion, neu môr, (unigol: morionen), sydd yn debyg iawn i’r enw [[merion]], [[merien]] (Llydaweg). O’r elfen myr, neu môr mae’r gair morgrug yn tarddu, ac mae o’n gyfuniad o mor a crug – y crug yn golygu twmpath neu fryncyn, fel yn Crug y bar neu Crughywel. Cyfeirio at y twmpath neu’r nythfa wna’r enw morgrug felly, sy’n dangos bod ein cyn deidiau ni’r Cymry yn ystyried bod y nythfa yn bwysicach na’r morgrugyn unigol.<ref>O sgript rhaglen [[Galwad Cynnar]], Twm Elias (cyhoeddwyd gyda chaniatad Radio Cymru)</ref>
 
==Defnyddiau meddygol==
Prin yw’r cyfeiriadau at ddefnyddiau meddygol morgrug. Ond byddai bwyta wyau morgrug efo [[mêl]]l yn rysait i leddfu siom cariad nas cydnabyddir. Yn yr Alban rhoddid wyau morgrug a sug [[nionyn]] yn y glust i wella byddardod, tra y defnyddid pâst o forgrug wedi eu morteru’n fân efo malwen mewn finegr i waredu dafaden oddi ar y croen. Byddai natur asid y morgrug a’r [[finegr]] gyda’i gilydd yn siwr o fod yn effeithiol yn yr achos hwn<ref>‭Cassell’s Dictionary of Superstitons‬ (1995)</ref>