Brwydr Maesyfed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

brwydr rhwng y Cymry o dan arweiniad yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth a'r saeson yn 1195.
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 01:24, 10 Ebrill 2010

Brwydr ger Maesyfed, Powys oedd Brwydr Maesyfed gyda'r Cymry o dan arweiniad yr Arglwydd Rhys yn fuddugol a lle lladdwyd deugain o farchogion Roger de Mortimer a Hugh de Say yn 1195.

Hon oedd brwydr olaf Rhys, yn ei ymgyrch olaf yn erbyn y Normaniaid, pan gipiodd nifer o gestyll gan gynnwys Castell Caerfyrddin a llosgi'r dref Saesnig yn ulw. Gyda chymorth llawer rhagor o filwyr Cymraeg lleol trodd i'r dwyrain gan ymosod ar Castell Glan Edw (Conwy ger Maesyfed) gyda'i beiriannau rhyfel nerthol nes i'r Saeson ildio; llosgodd y castell. Aeth yn ei flaen i gipio Castell Maesyfed a Chastell Paun. O fewn dyddiau, bron, roedd ei fyddin yn fuddugol ym Mrwydr Maesyfed ar lawr y dyffryn pan laddwyd deugain o farchogion Roger de Mortimer a Hugh de Say.