Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Santes Dwynwen"

Ychwanegwyd 1 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(dolen allanol ('gweler hefyd' ar gyfer dolennau mewnol))
 
=== Sefydlu Llanddwyn a Llangeinwen ===
Symudodd Dwynwen a'i chwaer Ceinwen at berthnasau i Fôn. Sefydlodd Dwynwen ar benrhyn a elwir heddiw'n '"Ynys Llanddwyn'" ger traeth Niwbwch ond nid oedd yn ynys bryd hynny.<ref>Kidson C, 1994, mewn sgwrs</ref> Ni bu Llanddwyn yn fan anghysbell yn y [[5g]] fel y mae hi heddiw; y mae'n llai na phum milltir o Aberffraw, un o brif lysoedd Cymru o'r Oes Haearn hyd at yr Oesoedd Canol. Roedd Llanddwyn hefyd yn agos i'r prif llwybr morwrol i [[Iwerddon]] - o ollewin Ynys Môn i Dun Laoghaire. Bu Dwynwen fyw yn Llanddwyn tan ei marwolaeth yn 460 O. C.
 
=== Dywediadau Dwynwen ===
* Priodolir iddi y dywediad "nid enillir calonnau cyn gynted â sirioldeb" a ddyfynnir yng nghân Baring -Gould and Fisher,<ref name=":0">Baring -Gould,s a Fisher, J 1907, Lives of the British Saints, Cymrodorion</ref> er eu bod hwy yn cofnodi fersiwn wahanol o'r hanes. Iolo Morgannwg yw ffynhonnell dywediad arall: '"A glywaist ti chwedl Dwynwen Santes, merch deg Brychan hen? Nid caruaidd ond llawen.'" a geir yn [https://archive.org/stream/iolomanuscripts00iologoog/iolomanuscripts00iologoog_djvu.txt llawysgrif 1848]'..
[[Delwedd:The Ruined Church, Lighthouse and Main Cross on Llanddwyn - geograph.org.uk - 255301.jpg|bawd|chwith|Adfeilion Eglwys Llanddwyn a'r [[Croes Geltaidd|Groes Geltaidd]].]]
Yn ôl y tair gweddi Lladin a ychwanegwyd at Lyfr Offeren Bangor ym 1494, cerddodd Dwynwen yr holl ffordd dros fôr [[Iwerydd]] rhag llid [[Maelgwn Gwynedd]]. Yn llawysgrifau [[Iolo Morganwg]] ceir fersiwn wahanol, sef y fersiwn uchod. Ym marddoniaeth [[Dafydd Trefor]] (c.1460 - 15281460–1528) disgrifir cleifion yn cael eu hiacháu gerllaw ei ffynnon a'i chapel. Bu Dwynwen yn enwog ledled Gwynedd yn yr Oesoedd Canol a bu ymweld â Llanddwyn yn boblogaidd iawn.
 
==Dafydd ap Gwilym==
 
== Coelion y Werin am Ddwynwen ==
Yn agos i'r eglwys mae ffynnon a elwir '"Crochan Dwynwen'". Dywedid fod symudiad y pysgod yn y ffynnon yn rhagfynegi ffawd rhywun sy'n dymuno priodi. Cysegrwyd sawl ffynnon iddi, gan gynnwys un ger [[Niwbwrch]], sydd erbyn hyn wedi'i llenwi â thywod. Credid hefyd bod dŵr y ffynnon yn iacháu pobl wael. Arferodd pobl leol ddod â'u hanifeiliaid gwael i Landdwyn. Felly dros y canrifoedd daeth Dwynwen yn noddwraig gwartheg hefyd. Cofnodir un hanes a ddigwyddodd tua 1650 am ychen, a oedd yn gweithio ar y Sul, yn cael braw ac a redodd tua'r môr a boddi. Oherwydd hyn dechreuodd yr arfer o osod canhwyllau yn eglwys Llanddwyn i rwystro trychinebau rhag digwydd i ych aredig.{{angen ffynhonnell}}
 
== Agweddau at Ddwynwen ==
Ni ledodd y diddordeb yn Nwynwen y tu allan i Gymru a Chernyw ac ni ddangosodd yr Eglwys Gatholig ddiddordeb ynddi hi fel santes am ganrifoedd. Nid oedd hi'n [[gwyryf|wyryf]]; ond ymhlith pobl [[Ynys Môn|Môn]] mae dilyn arferion cysylltiedig â Dwynwen wedi parhau yn ddi-dor.
 
Ychwanegodd sawl manylyn i 'barchuso' hanes Dwynwen yn ddiweddarach. Honnodd ei bod hi wedi gwrthod priodi Maelon gan nid oedd yn ŵr addas (heb sôn am dreisio), neu awgrymodd fod Brychan wedi gwrthod caniatáu y briodas, (fersiwn anhebygol iawn oherwydd yr oedd gan ferched Brycheiniog yr hawl i ddewis eu gŵyr eu hun). Yn yr [[20g]] ailsefydlwyd Dwynwen fel nawddsant cariadon Cymru.
 
==Gweler hefyd==
132

golygiad