Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 197 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
delwedd; comin
[[Delwedd:Paris-mathew.jpg|250px|bawd|Mathew Paris: hunanbortread.]]
[[Hanes]]ydd canoloesol o [[Saeson|Sais]] oedd '''Mathew Paris''' (c. [[1200]] - [[1259]]), sy'n adnabyddus hefyd fel darluniwr llawysgrifau.
 
Ymunodd Mathew ag abaty [[Benedictaidd]] [[St Albans]] yn [[1217]] ac aeth yn ddisgybl i'r [[croniclydd]] [[Roger o Wendover]] a'i olynu fel croniclydd yr abaty yn [[1236]]. Teithiodd i astudio yn [[Ffrainc]] ddwywaith ac aeth unwaith yn gennad dros y [[Pab Innocent IV]] i [[Norwy]].
 
Mae ei ''Chronica Majora'' yn olygiad a pharhad o gronicl Roger o Wendover. Ynddo ceir hanes tranc [[Gruffudd ap Llywelyn Fawr]] wrth geisio dianc o [[Tŵr Llundain|Dŵr Llundain]]. Cyhoeddodd sawl gwaith arall, gan gynnwys crynhoad o'r blynyddoedd 1200-1250 yn y ''Chronica Majora'' (y ''Historia Minora'') a bywgraffiadau [[Abad|abadau]].
 
{{comin|Category:Matthew Paris|Matthew Paris}}
 
{{DEFAULTSORT:Paris, Mathew}}
[[Categori:Genedigaethau 1200]]
[[Categori:Marwolaethau 1259]]
[[Categori:Arlunwyr Seisnig]]
[[Categori:Hanesyddion Seisnig]]
[[Categori:Llên Ladin yr Oesoedd Canol]]